Athro/Athrawes Addysg Gorfforol ar gyfer Merched
Prif raddfa gyflog/uwch raddfa gyflog dros dro, cyfnod penodol – un flwyddyn
1 Medi, 2025 i 31 Awst, 2026
Rydym yn chwilio am athrawes ragorol addysg gorfforol ar gyfer merched. Byddwch yn unigolyn dynamig, uchelgeisiol a brwdfrydig sy’n meddu ar rinweddau arweinydd yn y dosbarth i addysgu addysg gorfforol i CA3, CA4 a CA5. Byddai’r gallu i addysgu ABCh a chyrsiau eraill a ddarperir gan y Gyfadran Iechyd a Llesiant o fantais.
Mae Ysgol Harri Tudur yn ysgol gyffrous a chroesawgar i weithio ynddi. Mae ein hysgol yn parhau ar ei thaith gwelliant er mwyn ceisio rhagoriaeth, yn dilyn ein hadroddiad cadarnhaol gan Estyn ym mis Ionawr 2022.
Rydym yn croesawu’n gynnes ymgeiswyr dawnus, uchelgeisiol, egnïol a gwydn sydd nid yn unig yn dymuno ymuno â ni ar y daith honno, ond sy’n gallu ac yn barod i wneud cyfraniad gwerthfawr at ei llwyddiant yn y dyfodol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus:
Yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol
Yn arbenigwr pwnc arloesol
Yn gyfathrebwr rhagorol
Yn meddu ar y weledigaeth a’r ysgogiad i sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn llwyddo
Yn ysgogi, herio, cefnogi ac ysbrydoli ein disgyblion
Yn ymrwymedig i godi cyrhaeddiad ar draws pob gallu, beth bynnag fo’r man cychwyn
Yn ymrwymedig i gefnogi pob cydweithiwr
Yn meddu ar brofiad o weithredu newid sy’n cael dylanwad cadarnhaol ar addysg disgyblion
Byddwch yn frwd dros Addysg Gorfforol, Addysg Awyr Agored a Chwaraeon, a’u haddysgu yn yr ysgol a thu allan iddi
Byddai’r swydd hon yn addas ar gyfer athro profiadol ond croesewir ceisiadau gan athrawon newydd gymhwyso (ANG)
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ceisiadau yw Dydd Llun 12 Ebrill 2025
Ar gyfer ymweliadau anffurfiol â’r ysgol, cysylltwch â rheolwr busnes yr ysgol, Mr Nick Makin I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Mr T Crichton, y dirprwy bennaeth, drwy anfon neges e-bost
Ewch i’n gwefan
Mae’n ddrwg gennym na fydd modd inni roi adborth i ymgeiswyr nad ydynt yn llwyddiannus. Dylai ymgeiswyr lenwi ffurflen gais a llunio llythyr cais sy’n mynd i’r afael â sut y maent yn bodloni manyleb y person. Anfonwch eich llythyr cais
Mae Ysgol Harri Tudur/Henry Tudor School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.