Ydych chi'n chwilio am gyfle newydd a chyffrous ac yn dymuno bod yn rhan o dîm sy'n tyfu? Rydym yn chwilio am athro / athrawes frwdfrydig ac angerddol i ymuno â'n staff cyfeillgar, uchel eu cymhelliant.
Trosolwg o’r rôl
Rydym yn chwilio am addysgwr rhagorol i ymuno â'n staff addysgu. Byddwch yn athro / athrawes ysgol gynradd brofiadol neu'n athro / athrawes frwd ar ddechrau eich gyrfa, ac yn cyflwyno cwricwlwm y cyfnod sylfaen, gan gynllunio, paratoi ac addysgu gwersi; mae dealltwriaeth o reolaeth dosbarth, gwybodaeth am y cwricwlwm a rhoi adborth yn allweddol.
Gofynion allweddol
- Statws Athro Cymwysedig
Angerdd ac ymrwymiad i ysbrydoli drwy ddysgu ac addysgu
Gwybodaeth gadarn o'r cyfnod sylfaen yn unol â'r cwricwlwm perthnasol.
Y gallu i adeiladu ar yr wybodaeth o arfer gorau sydd eisoes gennych a'i datblygu
Sgiliau cyfathrebu a rheolaeth dosbarth rhagorol
Pam dewis ni?
Rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn datblygu a hyfforddi ein holl gydweithwyr. Os ydych am gael eich ymestyn a'ch herio mewn tîm staff cadarnhaol a chreadigol, ac yn meddu ar awydd go iawn i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n myfyrwyr, ymgeisiwch gan ddilyn y ddolen isod.
test school is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment. We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.