Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn ysgol hapus a chyfeillgar, gyda disgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae Llywodraethwyr yr ysgol hapus a llwyddiannus hon yn ceisio penodi athro/athrawes uchelgeisiol, brwdfrydig ac arloesol gyda sgiliau rheoli a rhyngbersonol rhagorol i gynorthwyo'r Pennaeth i arwain tîm o staff addysgu a chymorth ymroddedig.
Dylech fod yn:
- ymarferydd rhagorol sy'n ymrwymedig i godi safonau a gwella'r ysgol;
- yn frwdfrydig dros addysg ac yn meddu ar yr ymrwymiad a'r ysgogiad i arwain datblygiadau cwricwlaidd sy'n galluogi pob plentyn i lwyddo yn eu dysgu;
- unigolyn sydd â'r sgiliau rhyngbersonol a threfnu angenrheidiol i ysgogi a gyrru mentrau gan ddefnyddio sgiliau'r tîm staff mawr;
- unigolyn â'r personoliaeth, yr ysgogiad a'r brwdfrydedd i gefnogi'r Pennaeth a'r Llywodraethwyr wrth arwain a rheoli'r ysgol.
Yn yr ysgol, rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol o ansawdd uchel, ac rydym yn gallu cynnig dysgwyr cyfeillgar a brwdfrydig a fydd yn herio eich meddylfryd. Rydym yn gymuned hapus, groesawgar a gweithgar o staff, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion sy'n frwd dros brofiad addysgol o safon uchel.
Dylai ymgeiswyr a ddewisir ar gyfer cyfweliad gysylltu â'r Pennaeth i drefnu ymweliad â'r ysgol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 12 Mehefin 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 15 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar OgwrDisgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Datganiad Diogelu:
Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.