Rôl: Arweinydd yr Adran Dechnoleg
Dyddiad dechrau: Ebrill 2027, neu cyn gynted ag sy’n bosibl
Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon + CAD 2b (TLR 2b)
Cytundeb: Llawn amser a pharhaol
Dyddiad cau: Dydd Llun 7 Rhagfyr am 09:00
Dyma gyfle i ymuno ag ysgol hapus, flaengar a llwyddiannus, gyda thîm cyfeillgar, brwdfrydig a thalentog o staff sy’n ymrwymedig i gynnal y safonau uchaf o addysgu a dysgu. Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw’r unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae gennym hanes o berfformiad arbennig sydd wedi ei sefydlu ar safonau uchel a gweledigaeth glir ac uchelgeisiol. Lleolir yr ysgol tua 10 munud o gyffordd 36 yr M4, yn hawdd ei chyrraedd o Abertawe (llai na 30 munud) ac o Gaerdydd (25 munud).
Rydym yn chwilio am athro neu athrawes Dylunio a Thechnoleg uchelgeisiol ac ysbrydoledig i arwain yr Adran Dechnoleg. Gyda’r cymwysterau newydd, bydd gennych y cyfle, yr ymddiriedaeth a’r gefnogaeth i lunio cyfeiriad yr adran o Flwyddyn 7 hyd at Safon Uwch, er mwyn darparu ystod o brofiadau gwerthfawr ynghyd ag addysg ysgogol i’n dysgwyr.
Gallech fod yn arweinydd canol profiadol sy’n chwilio am her newydd, neu’n athro/athrawes ragorol sy’n barod i gymryd eich cam cyntaf i arweinyddiaeth.
“Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn cynnig awyrgylch cadarnhaol i ddysgwyr ffynnu’n academaidd a datblygu’n ddinasyddion cyflawn. Mae awyrgylch teuluol Cymreig ac ethos cryf o weithio fel tîm yn treiddio drwy’r ysgol gyfan.” (Adroddiad ysgol Estyn, Mawrth 2023)
Bydd disgwyl i’r person a benodir:
• Datblygu gweledigaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer yr adran ac arwain hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.
• Modelu addysgu rhagorol.
• Arwain datblygiad y cwricwlwm i flwyddyn 7 i 13.
• Arwain gweithrediad y cymwysterau Dylunio a Thechnoleg ynghyd â Lefel 1/ 2 Lletygarwch ac Arlwyo.
• Dadansoddi data, olrhain cynnydd pob grŵp o ddysgwyr a chynllunio ymyriadau effeithiol.
• Sicrhau safonau uchel mewn asesiadau di-arholiad ac arholiadau allanol CBAC.
• Arwain, datblygu a rheoli perfformiad staff yr adran, gan gynnwys rheolwr llinell y technegydd.
• Arwain iechyd a diogelwch yn y gweithdai a’r ceginau, gan gynnwys asesiadau risg.
• Rheoli cyllideb ac adnoddau’r adran yn effeithiol.
• Datblygu cysylltiadau â diwydiant ac addysg bellach ac uwch, a chyfleoedd allgyrsiol sy’n ysbrydoli dysgwyr.
• Hyrwyddo’r Gymraeg ac ethos Cymreig yr ysgol.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae’r pecyn swydd llawn, sy’n cynnwys y disgrifiad swydd a’r fanyleb person, ar gael gan yr ysgol.
Os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch ffurflen gais o wefan Eteach neu cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol (manylion yn yr hybyseb), gan gynnwys llythyr cais at y Pennaeth. Mae croeso cynnes i chi drefnu ymweliad anffurfiol neu sgwrs am y swydd cyn gwneud cais.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: Dydd Llun 7 Rhagfyr am 09:00
Cyfweliadau: I’w bennu
Mae diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i’r ysgol a’r Cyngor. Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).