35 awr yr wythnos
Yn ystod tymor yr ysgol
Mae Ffederasiwn Cwm Garw yn chwilio am Reolwr Gweinyddol medrus a llawn cymhelliant i chwarae rôl allweddol yng ngweithrediad llyfn a llwyddiannus ein hysgolion ffederal. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol profiadol ymuno â thîm ymroddedig a chefnogol sy'n ymrwymedig i ddarparu'r
canlyniadau gorau posibl i'n disgyblion, ein staff, a'n cymuned.
Y Rôl
Bydd y Rheolwr Gweinyddol yn arwain, yn trefnu, ac yn goruchwylio'r swyddogaethau gweinyddol ar draws y Ffederasiwn, gan sicrhau systemau effeithlon, gwasanaethau cymorth o ansawdd uchel a rheolaeth weithredol gref. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Gweithredol, Penaethiaid Ysgol a llywodraethwyr, gan gyfrannu at gynllunio, datblygu, a gwerthuso prosesau allweddol yr ysgolion.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu:
- Arwain ar ddatblygu, gweithredu a chynnal systemau cofnodi, gwybodaeth, ac ariannol y Ffederasiwn.
- Dadansoddi a dehongli data i lunio adroddiadau o ansawdd uchel i gefnogi arweinyddiaeth a llywodraethu'r Ffederasiwn.
- Rhoi cyngor i staff ac arweinwyr ar adnoddau dynol, materion staffio a phrosesau gweinyddol.
- Darparu gwasanaeth cynorthwyydd personol proffesiynol i'r Pennaeth Gweithredol, a chydlynu gweithgareddau marchnata a hyrwyddo ar gyfer y Ffederasiwn.
- Rheoli gweinyddu adnoddau dynol/cyflogres a chynorthwyo'r gwaith o ddatblygu systemau AD effeithiol.
- Goruchwylio cyllidebau, incwm, a gwariant, gan gynnal ymchwil i sicrhau gwerth gorau.
- Rheoli trwyddedau ysgolion, yswiriant, a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch.
- Bod yn rheolwr llinell ar staff cymorth, gan gynnwys recriwtio, sefydlu, hyfforddi ac arfarnu.
Yr hyn y gallwn ei gynnig:
- Y cyfle i arwain a llunio ein Ffederasiwn blaengar.
- Cymorth gan Bennaeth Gweithredol ymroddedig, Corff Llywodraethu, a thimau staff ymrwymedig.
- Amgylchedd cydweithredol a chefnogol, gyda chysylltiadau cryf â'r gymuned leol.
- Cymuned groesawgar gydag ymdeimlad cryf o falchder a pherthyn.
- Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau a chanlyniadau plant a theuluoedd yn ein cymunedau.
- Mynediad at adnoddau a rhwydweithiau yn yr awdurdod lleol a'r sector addysg ehangach.
- Diwylliant sy'n gwerthfawrogi llesiant, gwelliant parhaus, ac arloesi.
Os ydych yn arweinydd ysbrydoledig gydag angerdd am ysgogi newid cadarnhaol mewn addysg, rydym yn eich gwahodd yn gynnes i wneud cais am y rôl allweddol hon fel Rheolwr Gweinyddol. Ymunwch â ni ar ein taith, gallai eich sgiliau a'ch gweledigaeth chwarae rhan allweddol wrth lunio dyfodol ein Ffederasiwn. Rydym yn edrych ymlaen at gael eich cais a darganfod y cryfderau y gallwch eu cynnig i'n tîm.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Mawrth 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 23 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn Dechrau 13 Ebrill 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Garw Valley Federation yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.