NEW

Arweinydd Darpariaeth Trochi Hwyr - Mewnol yn Unig

Employer
Inclusion Service Bridgend County Borough Council
Location
Bridgend
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
TBC
Start Date
To Be Confirmed
Expires
19th May 2026 12:00 AM
Contract Type
Permanent
Job ID
1552952
Job Reference
18707
Start Date
To Be Confirmed
  • Contract Type :Permanent
  • Job ID: 1552952
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awyddus i benodi person brwdfrydig, ysbrydoledig ac ymroddgar i arwain a datblygu Pont Iaith, ein darpariaeth trochi iaith o fewn yr awdurdod.

Prif bwrpas Pont Iaith yw trochi newydd-ddyfodiaid yn yr iaith Gymraeg gan gydweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg. O fewn yr Awdurdod Lleol mae clwstwr clos o ysgolion cyfrwng Cymraeg gyda phedair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd. Mae rhain yn cydweithio'n agos gyda'i gilydd gan feddu ar weledigaeth gytûn er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc Pen-y-bont yn derbyn y cyfleoedd gorau posib i ddatblygu'n unigolion hyderus a mentrus sy'n profi llwyddiannau cyson drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma gyfle cyffrous ac euraidd ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus wrth gydweithio gyda chlwstwr llwyddiannus o ysgolion. Mae gan yr Awdurdod Lleol ymrwymiad uchelgeisiol er mwyn tyfu'r ddarpariaeth effeithiol a llwyddiannus o fewn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA).

Ers Tachwedd 2022, mae disgyblion trochi hwyr wedi eu cefnogi o fewn eu mam ysgolion. Erbyn hyn, mae uned gennym ar safle ysgol gynradd Gymraeg ar gyfer disgyblion hyd at flwyddyn saith.

Mae'r disgyblion o fewn y ddarpariaeth Trochi Hwyr yn derbyn cefnogaeth ôl-ofal yn eu hysgolion ar ôl cyfnod o gefnogaeth. Yn sgìl hyn, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu'r disgyblion ar amrywiaeth o safleoedd yn ôl y galw ond yn bennaf o'r uned. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn annibynnol a chydweithio gyda staff ysgolion, a derbyn arweiniad gan Gydlynydd y CSCA.

Darperir hyfforddiant priodol parthed egwyddorion trochi effeithiol i'r ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r swydd hon wedi'i gwneud yn barhaol gan fod y ddarpariaeth bellach yn statudol o dan ddeddfwriaeth addysg Cymru.

Dymunwn benodi arweinydd sydd:
  • â phrofiad arwain, annog ac ysbrydoli eraill
  • â'r gallu i sefydlu a datblygu systemau a phrosesau newydd
  • yn ymarferydd rhagorol gydag iaith raenus â phrofiad o addysgu iaith i ddisgyblion oedran cynradd a/neu uwchradd
  • yn gallu cynllunio ac asesu safonau iaith disgyblion yn effeithiol
  • â'r ymroddiad a'r brwdfrydedd i weithio gyda'r disgyblion wrth ddysgu Cymraeg
  • â disgwyliadau uchel o ran agweddau a chyrhaeddiad disgyblion
  • yn meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • yn barod i fod yn hyblyg yn ôl gofynion yr Awdurdod Lleol ac anghenion disgyblion
Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatganiad manwl gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Am fanylion pellach am y swydd neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch gyda Becca Avci, Cydlynydd y CSCA trwy e-bostio becca.avci@bridgend.gov.uk neu ar 07890 891 798.

Dylid cwblhau'r ffurflen gais ar-lein yn uniongyrchol erbyn y dyddiad cau.

Mae'r gallu i sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 19/05/2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 19/05/2026

Dyddiad y Cyfweliad: 21/05/2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Safeguarding Statement:

Inclusion Service Bridgend County Borough Council is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Inclusion Service Bridgend County Borough Council

Inclusion Service Bridgend County Borough Council