Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Garth - Gwasanaethau Arlwyo

Ysgol
Garth Primary
Lleoliad
Maesteg, Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
4th May 2024
Yn dod i ben
22nd Mai 2024 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1419175
Cyfeirnod y swydd
16349
Dyddiad cychwyn
4th May 2024
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1419175
Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Garth - Gwasanaethau Arlwyo
Disgrifiad swydd
12.5 oriau yr wythnos

Trefnir oriau gwaith rhwng 10am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig.

Yn ystod tymor yr ysgol

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod fel Cogydd Cynorthwyol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo'r cogydd i baratoi prydau bwyd ysgol. Byddwch yn cynorthwyo wrth hyfforddi a threfnu staff a byddai gwybodaeth am weithdrefnau gweinyddu cegin yn fantais.
Bydd disgwyl i chi gyflenwi ar gyfer y Cogydd yn ei absenoldeb a chyflenwi mewn ysgolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae angen Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd ar gyfer y swydd hon. Darperir hyfforddiant os bydd angen.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 22 Mai 2024

Llunio'r rhestr fer: 23 Mai 2024

Cyfweliadau: 3 Mehefin 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Garth Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.