Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Nantymoel

Cyflogwr
Nantymoel Primary
Lleoliad
Nantymoel, Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
9,165.00 per year
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
10th Rhagfyr 2025 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1518741
Cyfeirnod y swydd
18086
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1518741
Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Nantymoel
Disgrifiad swydd
15 awr yr wythnos

Amser Tymor

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn adran Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Gwasanaethau Arlwyo yn darparu prydau bwyd mewn ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac ysgolion uwchradd ar draws y fwrdeistref ar gyfer disgyblion a staff drwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r ysgolion unigol.

Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd cogydd cynorthwyol yn Ysgol Gynradd Llidiart yn cefnogi'r cogydd i baratoi prydau ysgol gynradd am ddim i bawb a rheoli a chydlynu gweithgareddau yn y gegin hon o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid.

Bydd disgwyl i chi gyflenwi ar gyfer y Cogydd yn ei absenoldeb a chyflenwi mewn ysgolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol. 

Mae angen Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd ar gyfer y swydd hon.  Darperir hyfforddiant os bydd angen.

Trefnir oriau gwaith rhwng 10am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 10 Rhagfyr 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 12 Rhagfyr 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 5 Ionawr 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Nantymoel Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.