32.5 awr yr wythnos
I ddechrau cyn gynted â phosibl
A ydych yn arweinydd ysbrydoledig, llawn cymhelliant a chydweithredol gyda llwyddiant blaenorol o ymarfer rhagorol yn y Cyfnod Sylfaen, sgiliau cyfathrebu rhagorol ac effaith gadarnhaol ar ddatblygiad ysgol gyfan?
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Tremains yn ceisio penodi Pennaeth Cynorthwyol
brwdfrydig, myfyriol a blaengar sy'n awyddus i gyfrannu at gyfeiriad strategol ein cymuned ysgol gynhwysol ac uchelgeisiol.
Ein Hysgol
Mae Ysgol Gynradd Tremains yn gymuned ddysgu fywiog, feithringar sy'n cael ei hysgogi gan werthoedd gyda 450 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys tair Canolfan Adnoddau Dysgu uchel eu parch sydd wedi'u hymgorffori'n llawn yn ein hysgol. Mae ein harwyddair - Bydda'n Garedig, Bydda'n Ddewr, Bydda'n Ti dy Hun - yn llunio ein diwylliant a'n hymarfer. Rydym yn falch o'n hymdeimlad cryf o berthyn, lle mae disgyblion, staff a theuluoedd yn gweithio gyda'i gilydd i greu ysgol lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi a'u hannog i ffynnu.
Y Rôl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain yn strategol ar Lesiant, Gofal, Cymorth ac Arweiniad, gan sicrhau bod pob plentyn yn teimlo'n ddiogel, yn cael ei gefnogi ac yn gallu ffynnu. Bydd hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth gryfhau ymgysylltu â'r gymuned, busnesau a rhieni, gan gynnwys presenoldeb, gan feithrin partneriaethau ystyrlon sy'n cyfoethogi bywyd yr ysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Ymarferydd rhagorol yn y Cyfnod Sylfaen gyda dealltwriaeth ddofn o ddatblygiad plentyndod cynnar ac addysgeg o ansawdd uchel.
- Dangos sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i ysbrydoli, dylanwadu a chydweithio'n effeithiol â disgyblion, staff, teuluoedd a phartneriaid allanol.
- Modelu arweinyddiaeth drugarog, gynhwysol a dosbarthol sy'n meithrin diwylliant tîm cadarnhaol.
- Dangos uchelgais, gwydnwch ac ymrwymiad i dwf proffesiynol parhaus.
- Hyrwyddo llesiant ar draws yr ysgol, gan sicrhau systemau cadarn o Ofal, Cymorth ac Arweiniad.
- Ysbrydoli a chefnogi cydweithwyr i gyflwyno cwricwlwm eang, creadigol ac uchelgeisiol.
- Meithrin partneriaethau cryf gyda rhieni, gofalwyr, sefydliadau lleol a'r gymuned ehangach.
- Cyfrannu syniadau arloesol sy'n ysgogi gwelliant ysgol parhaus ac sy'n cyd-fynd ân gweledigaeth strategol.
Yr hyn rydym yn ei gynnig
- Ysgol sydd â gweledigaeth glir, bwrpasol sydd wedi'i gwreiddio mewn cynhwysiant, perthyn a pharch at eich gilydd
- Tîm staff ymroddedig, medrus a chefnogol sy'n ymrwymedig i welliant parhaus
- Diwylliant cryf o ddysgu proffesiynol, cydweithredu ac ymarfer myfyriol
- Amgylchedd cynnes, croesawgar gydag ethos tîm cadarnhaol
- Llywodraethwyr ymroddedig iawn gyda ffocws cryf ar wella'r ysgol
Ymweliadau a Cheisiadau
Rydym yn croesawu ymweliadau âr ysgol. Dewch i brofi ein gwerthoedd, ein hegni a'n hethos yn uniongyrchol. Mae taith anffurfiol wedi'i threfnu gyda'r Pennaeth a'r Partner Gwella Ysgol ar 9 Mawrth 2026 am 2pm.
Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Tremains Primary School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.