NEW

Athro Arweiniol y Gymraeg - Uned Drochi Hwyr

Employer
Inclusion Service Bridgend County Borough Council
Location
Bridgend
Contract Type
Temporary
Hours
Part Time
Salary
Graddfa Cyflog Athrawon+TLR 2A
Start Date
7th June 2025
Expires
25th June 2025 12:00 AM
Contract Type
Temporary
Job ID
1490066
Job Reference
17557
Start Date
7th June 2025
  • Contract Type :Temporary
  • Job ID: 1490066
Athro Arweiniol y Gymraeg - Uned Drochi Hwyr Job description 32.5 awr yr wythnos Yn ystod tymor yr ysgol Cyfnod Penodol - 1 flwyddyn (i ddechrau) I ddechrau: Medi 2025 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awyddus i benodi person brwdfrydig, ysbrydoledig ac ymroddgar i arwain a datblygu darpariaeth trochi iaith o fewn yr awdurdod. Prif bwrpas y ddarpariaeth trochi iaith yw trochi newydd-ddyfodiaid yn yr iaith Gymraeg gan gydweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg. O fewn yr Awdurdod Lleol mae clwstwr clos o ysgolion cyfrwng Cymraeg gyda phedair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd. Mae rhain yn cydweithio’n agos gyda’i gilydd gan feddu ar weledigaeth gytûn er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc Pen-y-bont yn derbyn y cyfleoedd gorau posib i ddatblygu’n unigolion hyderus a mentrus sy’n profi llwyddiannau cyson drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma gyfle cyffrous ac euraidd ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus wrth gydweithio gyda chlwstwr llwyddiannus o ysgolion. Mae gan yr Awdurdod Lleol ymrwymiad uchelgeisiol er mwyn tyfu’r ddarpariaeth effeithiol a llwyddiannus o fewn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA). Ers Tachwedd 2022, mae disgyblion trochi hwyr wedi eu cefnogi o fewn eu mam ysgolion. Erbyn hyn, mae uned gennym ar safle ysgol gynradd Gymraeg ar gyfer disgyblion hyd at flwyddyn saith. Mae’r disgyblion o fewn y ddarpariaeth Trochi Hwyr yn derbyn cefnogaeth ôl-ofal yn eu hysgolion ar ôl cyfnod o gefnogaeth. Yn sgìl hyn, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu’r disgyblion ar amrywiaeth o safleoedd yn ôl y galw ond yn bennaf o’r uned. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn annibynnol a chydweithio gyda staff ysgolion, a derbyn arweiniad gan Gydlynydd y CSCA. Darperir hyfforddiant priodol parthed egwyddorion trochi effeithiol i’r ymgeisydd llwyddiannus. Swydd dros dro gyda chontract o flwyddyn yn y lle gyntaf. Os hoffech geisio am y swydd o dan amodau secondiad, gofynnwn eich bod yn nodi hyn ar eich llythyr cais ar ôl derbyn caniatâd gan eich Pennaeth. Dymunwn benodi arweinydd sydd: - â phrofiad arwain, annog ac ysbrydoli eraill - â’r gallu i sefydlu a datblygu systemau a phrosesau newydd - yn ymarferydd rhagorol gydag iaith raenus â phrofiad o addysgu iaith i ddisgyblion oedran cynradd a/neu uwchradd - yn gallu cynllunio ac asesu safonau iaith disgyblion yn effeithiol - â’r ymroddiad a’r brwdfrydedd i weithio gyda’r disgyblion wrth ddysgu Cymraeg - â disgwyliadau uchel o ran agweddau a chyrhaeddiad disgyblion - yn meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog - yn barod i fod yn hyblyg yn ôl gofynion yr Awdurdod Lleol ac anghenion disgyblion Dylid cwblhau’r ffurflen gais ar-lein yn uniongyrchol erbyn y dyddiad cau. Mae'r gallu i sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon. Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor. Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon. Dyddiad Cau: 25 Mehefin 2025 Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: TBC Dyddiad y Cyfweliad: TBC

Safeguarding Statement:

Inclusion Service Bridgend County Borough Council is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Inclusion Service Bridgend County Borough Council

Inclusion Service Bridgend County Borough Council