NEW

Athro (Parhaol) - Ysgol Gymraeg Cynwyd Sant

Cyflogwr
Ysgol Cynwyd Sant
Lleoliad
Maesteg, Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
11th Mehefin 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1557957
Cyfeirnod y swydd
18778
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1557957
Parhaol

Cychwyn 01 Medi 2026

Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Cynwyd Sant benodi athro/athrawes llawn cymhelliant, gweithgar ac ymroddedig, gyda phrofiad o addysgu yn y sector cynradd, i ymuno â'n tîm talentog, ymroddgar ac arloesol.

Mae ethos Teulu Cynwyd Sant wrth wraidd pob agwedd o'n gwaith, gan feithrin amgylchedd cynnes, cefnogol ac ysbrydoledig lle mae unigoliaeth pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a'i dathlu. Mae llwyddiant diweddar yr ysgol yn arolygiad Estyn yn adlewyrchu ansawdd ein disgyblion talentog, ymrwymiad ein staff ac ymgysylltiad cadarn ein cymuned ysgol.

Rydym yn ysgol sydd â safonau uchel a disgwyliadau clir ar gyfer pob aelod o'n cymuned, ac rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn rhannu'r gwerthoedd hyn.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos dealltwriaeth gadarn o ofynion y Cwricwlwm i Gymru, ynghyd ag ymarfer addysgu rhagorol yn yr ystafell ddosbarth. Disgwylir iddo/iddi hefyd feithrin perthnasoedd cadarnhaol ac effeithiol gyda holl randdeiliaid yr ysgol.

Mae'r penodiad yn ddarostyngedig i'r amodau cyflogaeth cyfredol ar gyfer athrawon a gynhwysir yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, y safonau gofynnol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig a deddfwriaeth gyfredol arall.

Oriau Gwaith

Bydd yr athro ar gael i weithio am 195 o ddiwrnodau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol. Dylai'r cyfryw athro fod ar gael i gyflawni'r cyfryw ddyletswyddau ar y cyfryw amseroedd ac yn y cyfryw leoliadau ag y gall y Pennaeth eu nodi am 1265 o oriau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol, y caiff yr oriau hynny eu dyrannu'n rhesymol ar draws y diwrnodau hynny yn ystod y flwyddyn ysgol y mae'n ofynnol iddo/iddi fod ar gael i weithio.

Lleoliad

Y man gweithio arferol fydd Ysgol Cynwyd Sant Fodd bynnag, efallai y bydd yn ofynnol i chi weithio unrhyw le o fewn y Fwrdeistref Sirol.

Cliriad Meddygol

Mae unrhyw gynnig swydd yn amodol ar gliriad meddygol. Bydd yn ofynnol i chi gwblhau holiadur meddygol, ac efallai y bydd yn rhaid i chi gael archwiliad meddygol cyn i chi gael eich penodi.

Geirdaon

Mae'r penodiad yn amodol ar dderbyn o leiaf ddau eirda boddhaol. Lle y bo'n bosibl, dylai'r rhain fod yn eirdaon gan gyn-gyflogwyr.

Cofnodion Troseddol

Mae canlyniad boddhaol i wiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch ag Adnoddau Dynol ar (01656) 643205.

Mae'r gallu i sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 11 Mehefin 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 12 Mehefin 2026

Arsylwadau gwersi/ymweliadau ysgol: 25 Mehefin 2026 ac os oes angen

yr wythnos yn dechrau 29 Mehefin 2026

Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 06 Gorffennaf 2026 *dyddiad terfynol i'w gadarnhau

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Ysgol Cynwyd Sant is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.