Athro/awes Mathemateg
Llawn amser a Pharhoal (yn ddibynnol ar brofiad yr ymgeisydd)
Graddfa Gyflog
ar gyfer Medi 2026 neu’n gynt os yn bosib
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol flaengar a llwyddiannus sydd â “naws deuluol Gymreig ac ethos cryf o weithio fel tîm sydd yn treiddio’r holl ysgol” (Estyn, 2023). Mae gennym dîm brwdfrydig a thalentog o staff sydd yn ymroi’n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad ein dysgwyr. Chwiliwn felly am berson blaengar, brwdfrydig, ymroddgar ac egnïol sydd â’r gallu i addysgu o fewn yr adran fathemateg a rhifedd. Mae’r adran hon yn un llwyddiannus, sydd yn meddu ac yn cynnal y safonau uchaf o gyflawniad ac yn boblogaidd ymhlith ein dysgwyr, gyda chanran uchel yn parhau i’w astudio i Safon Uwch. Mae gan yr adran dîm llwyddiannus a phrofiadol o staff sydd yn cefnogi’i gilydd ac yn anelu am y gorau o’n dysgwyr a thanio’u brwdfrydedd yn y pwnc. Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais ar “gynllunio’n strategol ar gyfer datblygiad medrau disgyblion” (Estyn, 2023) a bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus gydweithio â thîm medrau’r ysgol er mwyn adeiladu ar yr arferion cadarnhaol sydd ar waith.
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw unig ysgol gyfun Gymraeg sir Pen-y-bont ar Ogwr ac mae gennym weledigaeth clir a safonau uchel. “Mae gan yr arweinwyr ddarlun cynhwysfawr o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella yn yr ysgol a maent yn uchelgeisiol ac yn cynllunio’n ofalus ar gyfer gwelliannau” gan gynnig “rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau dysgu proffesiynol ar gyfer yr holl staff” (ESTYN, 2023). Lleolir yr ysgol i’r de o bentref hanesyddol Llangynwyd, llai na 10 munud o gyffordd 36 yr M4. Mae iddi gysylltiadau rhwydd a pharod o Abertawe i’r gorllewin (llai na 30 munud) a Chaerdydd i'r dwyrain (25 munud).
Mae hwn yn gyfle arbennig i gychwyn, neu ddatblygu gyrfa a chymryd rhan blaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan gan fodloni blaenoriaethau cenedlaethol.
Disgwylir i berson sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni’r gofynion isod:
• meddu ar gymwysterau a/neu brofiad priodol ar gyfer addysgu mathemateg mewn ysgol uwchradd;
• meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a’r Saesneg;
• meddu ar sgiliau TGCh da iawn;
• gallu gweithio fel rhan o dîm;
• dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol dysgwyr drwy weithgareddau allgyrsiol;
• ymrwymo’n llawn i gynllun datblygiad proffesiynol parhaus yr ysgol ac ymgymryd â gwaith ymchwil personol fel rhan o’r safonau proffesiynol newydd.
Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, lawr lwythwch y ffurflen gais oddi ar wefan E-teach ac os ydych am sgwrs anffurfiol, croeso i chi gysylltu â’r ysgol i gael siarad ag aelod o’r Uwch Dîm Arwain.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 19eg o Ionawr erbyn 17:00
This is an advertisement for the post of a full-time mathematics teacher in a Welsh Medium School. The ability to communicate fluently in Welsh is essential
Adroddiad Estyn 2023
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.