Mae Ysgol Gynradd Cwmfelin wedi'i lleoli yng Nghwm Llynfi. Mae'r ysgol yn gwasanaethu dalgylch eang ac mae'n ysgol leol uchel ei pharch a phoblogaidd gyda thua 200 o blant ar y gofrestr.
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Cwmfelin yn falch o wahodd ceisiadau am swydd Dirprwy Bennaeth i ymuno â'n tîm arweinyddiaeth ymroddedig
a chefnogol. Gan weithio'n agos gyda'r Pennaeth, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth arwain ac ysbrydoli ein cymuned ysgol ac wrth ddatblygu ymhellach ein gweledigaeth a rennir o fod yn 'Awyddus i ddysgu, yn falch o gyflawni.'
Mae Ysgol Gynradd Cwmfelin yn chwilio am ymarferydd ystafell ddosbarth llawn cymhelliant, hynod effeithiol, a phrofiadol sy'n angerddol am addysg ac sy'n dangos yr ymrwymiad, y weledigaeth a'r egni i arwain a datblygu darpariaeth cwricwlwm eithriadol ar draws yr ysgol. Byddwch yn cymryd rhan flaenllaw yng nghyfeiriad strategol arweinyddiaeth yr ysgol o ddydd i ddydd, gan gyfrannu at ddatblygu amgylchedd ysgol gofalgar a chynhwysol lle mae pob plentyn yn cael ei gefnogi i ffynnu yn academaidd, yn gymdeithasol, ac yn emosiynol.
A chithau'n Ddirprwy Bennaeth, arweinydd ysgol neu'n weithiwr proffesiynol addysg profiadol, bydd gennych brofiad rheoli gyda sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol amlwg. Byddwch yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr, y Gwasanaeth Cynhwysiant, asiantaethau allanol a'r gymuned leol i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn.
Gwahoddir darpar ymgeiswyr i ddod am daith o amgylch yr ysgol ddydd Gwener 15 Mai am 4:15pm. Os hoffech ddod i'r ymweliad hwn, cadarnhewch eich presenoldeb gyda:
Natalie Delve, Uwch-swyddog Gweinyddol drwy ffonio 01656 815525 neu anfonwch neges e-bost i admin@cwmfelinps.bridgend.cymru
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd
hon.
Dyddiad Cau: 27 Mai 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 1 Mehefin 2026
Arsylwi Gwersi: 3 Mehefin - 5 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 8 & 9 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Cwmfelin Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.