Deputy Headteacher - Ogmore Vale Primary School
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Dyddiad cychwyn Ionawr 2026
Rhowch hyd y contract os yw'n un dros dro neu gyfnod penodol:
Mae Ysgol Gynradd Cwm Ogwr wedi'i lleoli i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr a ger cyffordd 36 traffordd yr M4. Mae'r ysgol yn gwasanaethu dalgylch amrywiol ac mae'n ganolog i'r gymuned leol gyda staff cyfeillgar. Mae'r ysgol ar daith ddatblygiadol ac mae ganddi 300 o ddisgyblion ar y gofrestr, sy'n cynnwys 3 canolfan adnoddau dysgu.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol hapus, lwyddiannus hon yn awyddus i benodi athro/athrawes uchelgeisiol, llawn brwdfrydedd ac arloesol a chanddo/chanddi sgiliau rheoli a rhyngbersonol gwych i gynorthwyo'r Pennaeth wrth arwain tîm o staff addysgu a chymorth ymroddedig.
Dylech fod yn:
ymarferydd rhagorol sy'n ymrwymedig i godi cyrhaeddiad a gwella'r ysgol.
yn frwd dros addysg ac yn meddu ar yr ymrwymiad a'r ysgogiad i arwain datblygiadau cwricwlwm sy'n galluogi i'r holl blant lwyddo yn eu dysgu.
unigolyn sy'n meddu ar y sgiliau rhyngbersonol a threfnu angenrheidiol i symbylu ac ysgogi mentrau drwy ddefnyddio sgiliau'r tîm mawr o staff.
unigolyn sydd â'r bersonoliaeth, yr ysgogiad a'r brwdfrydedd i gynorthwyo'r pennaeth a'r llywodraethwyr wrth arwain a rheoli'r ysgol.
Byddai'n fantais i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad arweinyddiaeth amlwg mewn Mathemateg a Rhifedd.
Yn yr ysgol rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn gymuned hapus, groesawgar a gweithgar o staff, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion sy'n frwdfrydig am brofiad addysgol o ansawdd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 12 Hydref 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Hydref 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 20 & 21 Hydref 2025
Dyddiadau Arsylwi Gwersi: Dydd Iau 16 / dydd Gwener 17 Hydref 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Ogmore Vale Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.