Swydd: Dirprwy Bennaeth
Dyddiad Cychwyn: Medi 2026
Cyflog L16 – 20 (£76,364 - £84,100)
Cytundeb: Llawn amser a pharhaol
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg lewyrchus sy’n cael ei
dathlu am ei haddysgu cryf, ei hethos cefnogol, a’i harweinyddiaeth uchelgeisiol, fel yr amlygwyd yn
adroddiad Estyn.
Yn dilyn penodiad diweddar y Pennaeth ac ymddeoliad ein Dirprwy Bennaeth, mae’r corff
Llywodraethu am benodi arweinydd blaengar, arloesol a gweledigaethol i arwain yr ysgol ac adeiladu
ar ein llwyddiant.
Rydym yn chwilio am unigolyn gweithgar ac arloesol fydd yn chwarae rhan allweddol yn arwain ac
ehangu gweledigaeth ein hysgol - cymuned Gymraeg ofalgar, cydweithredol ac uchelgeisiol sy’n
credu mewn safonau uchel i bawb. Disgwylir ymrwymiad cryf i addysg Cymraeg ac i’n hegwyddorion
craidd sy’n llunio ‘naws deuluol’ yr ysgol ac ethos tîm cryf, fel y nodwyd gan Estyn (2023).
Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn 2008 i ddarparu addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg
ar gyfer bwrdeistref sirol Pen-y-bont. Lleolir yr ysgol ar gyffiniau pentref hanesyddol Llangynwyd, llai
na 10 munud o gyffordd 36 yr M4. Heddiw, mae tua 700 o ddisgyblion yn cynnwys y Chweched
Dosbarth, gyda thwf pellach disgwyliedig wrth i’r sir ymrwymo i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg y
sir. Mae ethos Tîm Llan wrth wraidd ein diwylliant - gweithio mewn partneriaeth agos â disgyblion,
staff, rhieni a llywodraethwyr er mwyn sicrhau llwyddiant gyda dysgwr.
Rydym yn hynod falch o’n hymrwymiad i feithrin yr ymdeimlad o Gymreictod a hunaniaeth Gymreig
ymysg disgyblion mewn modd cadarnhaol a chynhwysol gan gynnig awyrgylch cadarnhaol iawn i
ddisgyblion ffynnu’n academaidd ac i ddatblygu’n ddinasyddion cyflawn. (Estyn, 2023).
Mae ein Corff Llywodraethu yn un cefnogol ac ymroddgar sy’n gweithio’n effeithiol mewn
partneriaeth gyda’r uwch dim arwain er mwyn cyflawni’r gorau ar gyfer ein holl dysgwyr a staff.
Rydym yn chwilio am Ddirprwy Bennaeth sydd yn:
• Arweinydd cryf gyda’r weledigaeth a’r gallu i ddyrchafu, herio a chefnogi dyheadau pob
disgybl a phob aelod o staff.
• Meddu ar y gallu i gryfhau cynllunio strategol yr ysgol, gwireddu’r weledigaeth a chydweithio
gyda’r Pennaeth i gyflymu’r daith gwella.
• Eiriolwr brwd dros ddatblygu a meithrin y Gymraeg a’r ddarpariaeth addysg Gymraeg.
• Gosod disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr, staff a nhw eu hunain drwy werthuso a
hunanwerthuso parhaus.
• Gallu adeiladu perthnasau proffesiynol effeithlon gyda’r Corff Llywodraethu a'r Awdurdod
Lleol.
Yn absenoldeb y Pennaeth, bydd gan y Dirprwy Bennaeth gyfrifoldeb lawn dros arweinyddiaeth,
rheolaeth a rhediad yr ysgol er mwyn sicrhau cysondeb yn y safonau.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno ag ysgol hynod lwyddiannus ar daith o dwf a datblygiad parhaus.
Anogir ymgeiswyr i ddarllen adroddiad diweddara ESTYN :
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd – Adroddiad 2023 (linc yn yr atodiad)
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd – Adroddiad Interim 2026 (linc yn yr atodiad)
Ceir gwybodaeth gyd-destunol ar wefan My Local School ac ar wefan yr ysgol
Os oes diddordeb gyda chi i ymweld â’r ysgol neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â
pennaeth yr ysgol
Os ydych am ymuno â ni, lawr-lwythwch ffurflen gais oddi ar wefan E-teach.
Danfonwch y ffurflen gais at ebost yr ysgol
Dyddiad cau’r swydd: 11.05.26 am 9 y bore.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I’R YSGOL A’R
CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y
GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR
YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.