Dirprwy Bennaeth (Parhaol) - Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd

Cyflogwr
YGG Calon Y Cymoedd
Lleoliad
Betws, Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
12th Mehefin 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1556748
Cyfeirnod y swydd
18734
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1556748
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn ysgol hapus a chyfeillgar, gyda disgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae Llywodraethwyr yr ysgol hapus a llwyddiannus hon yn ceisio penodi athro/athrawes uchelgeisiol, brwdfrydig ac arloesol gyda sgiliau rheoli a rhyngbersonol rhagorol i gynorthwyo'r Pennaeth i arwain tîm o staff addysgu a chymorth ymroddedig.

Dylech fod yn:

- ymarferydd rhagorol sy'n ymrwymedig i godi safonau a gwella'r ysgol;

- yn frwdfrydig dros addysg ac yn meddu ar yr ymrwymiad a'r ysgogiad i arwain datblygiadau cwricwlaidd sy'n galluogi pob plentyn i lwyddo yn eu dysgu;

- unigolyn sydd â'r sgiliau rhyngbersonol a threfnu angenrheidiol i ysgogi a gyrru mentrau gan ddefnyddio sgiliau'r tîm staff mawr;

- unigolyn â'r personoliaeth, yr ysgogiad a'r brwdfrydedd i gefnogi'r Pennaeth a'r Llywodraethwyr wrth arwain a rheoli'r ysgol.

Yn yr ysgol, rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol o ansawdd uchel, ac rydym yn gallu cynnig dysgwyr cyfeillgar a brwdfrydig a fydd yn herio eich meddylfryd. Rydym yn gymuned hapus, groesawgar a gweithgar o staff, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion sy'n frwd dros brofiad addysgol o safon uchel.

Dylai ymgeiswyr a ddewisir ar gyfer cyfweliad gysylltu â'r Pennaeth i drefnu ymweliad â'r ysgol.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 12 Mehefin 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 15 Mehefin 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 25 Mehefin 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae YGG Calon Y Cymoedd yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.