NEW

Cynghorydd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Cyfnod Penodol)

Cyflogwr
Inclusion Service Bridgend County Borough Council
Lleoliad
Bridgend, Bridgend
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
2nd Rhagfyr 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1583925
Cyfeirnod y swydd
19340
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1583925
37 awr yr wythnos

Amser Tymor

Swydd Cyfnod Penodol ar gael hyd at 31 Mawrth 2028

Gan ddechrau ym mis Medi neu'n gynt os yw hynny'n bosibl.

A ydych yn weithiwr proffesiynol blynyddoedd cynnar uchelgeisiol, myfyriol ac angerddol sy'n barod i ddylanwadu ar ymarfer y tu hwnt i'ch lleoliad eich hun? A ydych yn credu ym mhŵer trawsnewidiol addysg a gofal cynnar o ansawdd uchel? A ydych yn cael eich cymell gan y cyfle i gefnogi, herio ac ysbrydoli eraill i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i blant ifanc?

Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i fuddsoddi mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn cryfhau capasiti ein Tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant. Felly, mae'n bleser gennym gynnig dau gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm uchel ei barch o gynghorwyr a swyddogion datblygu gofal plant.

Mae'r ehangu hwn yn adlewyrchu ein huchelgais lleol i wella ansawdd, cysondeb ac effaith y cymorth, yr her, yr arweiniad a'r dysgu proffesiynol a ddarparwn i leoliadau ac ysgolion. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwirioneddol i lunio ymarfer a gwella canlyniadau i blant ifanc ar draws y fwrdeistref sirol.

Y rôl

A chithau'n Gynghorydd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, byddwch yn:

Cefnogi, herio ac arwain arweinwyr ac ymarferwyr i sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel i ddysgwyr ifanc

Hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysgeg, darpariaeth ac asesu

Darparu cyngor proffesiynol sy'n gysylltiedig â gofynion statudol a fframweithiau arolygu

Cyfrannu at flaenoriaethau gwella strategol ar draws yr awdurdod lleol

Mae gwybodaeth ymarferol gref am ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol yn hanfodol, gan gynnwys:

Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Trefniadau cwricwlwm ac asesu ar gyfer Lleoliadau Nas Cynhelir a Ariennir

Cwricwlwm i Gymru

Fframweithiau arolygu AGC ac Estyn

Byddwch yn dod â phrofiad sylweddol o gyflwyno addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel, gan gynnwys cefnogi plant ag anghenion sy'n dod i'r amlwg ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Byddwch hefyd yn gallu rhoi tystiolaeth glir o effaith gadarnhaol eich arweinyddiaeth ar ddatblygiad proffesiynol ac ymarfer cydweithwyr.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr i nodi yn eu cais feysydd yr ydych yn angerddol amdanynt a meysydd cryfder.

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm cydweithredol, profiadol a blaengar sy'n ymrwymedig i wella canlyniadau i blant a theuluoedd ledled Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r rôl yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys elfen o weithio gartref (mae angen mynediad dibynadwy i'r rhyngrwyd), ochr yn ochr â theithio ar draws y fwrdeistref sirol. Mae trwydded yrru ddilys a'r defnydd o gar yn hanfodol.

I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, ffoniwch Louise Waite ar 01656 642798 neu anfonwch neges e-bost at louise.waite@bridgend.gov.uk.

Edrychwn ymlaen at gael eich cais a chroesawu cydweithwyr newydd sy'n rhannu ein huchelgais am ragoriaeth mewn addysg a gofal blynyddoedd cynnar.

Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.

Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 03 Rhagfyr 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 10 Rhagfyr 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Inclusion Service Bridgend County Borough Council yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Inclusion Service Bridgend County Borough Council

Inclusion Service Bridgend County Borough Council