Gwarchodwyr Arholiadau / Examination Invigilators
ar gyfer Mai/Mehefin 2026 yn y lle cyntaf
Gradd 2 SCP 3 £12.85 yr awr
Rydym yn bwriadu cynyddu ein tîm o warchodwyr arholiadau ysgol. Mae’r oriau gweithio’n hyblyg ond disgwylir bod yr unigolion perthnasol yn gallu mynychu yn ystod diwrnodau ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol ond yn bennaf rhwng Tachwedd, Rhagfyr, Ionawr, Mai a Mehefin.
Darperir hyfforddiant perthnasol er mwyn diwallu gofynion y swydd a bydd y dyletswyddau’n cynnwys:
• Gwarchod disgyblion wrth iddynt sefyll arholiadau.
• Dosbarthu adnoddau perthnasol (e.e. papur, pensiliau ayb)
• Dechrau a gorffen arholiadau
• Dosbarth a chasglu papurau arholiad.
• Gweithredu gan ddilyn canllawiau’r bwrdd arholi mewn unrhyw achos o dorri rheolau.
Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus:
• Fod yn brydlon a dibynadwy
• Ddangos bodlonrwydd i ddysgu canllawiau gwarchod arholiadau
• Fod yn hyblyg o ran amser gweithio yn ystod diwrnodau ysgol
• Fod yn gallu dilyn a gweithredu cyfarwyddiadau
• Ddangos gofal ar fanylder a chywirdeb
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol heblaw am y sgiliau uchod.
Os oes diddordeb gennych mewn cynorthwyo’r ysgol gyda’r gwaith allweddol yma, lawrlwythwch ffurflen gais o wefan e-teach neu gysylltwch â’r ysgol (manylion cyswllt uchod).
Nid oes dyddiad cau penodol ond mae’n rhaid i ni apwyntio’r tîm gwarchod erbyn dechrau mis Mai 2026
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.