NEW

Pennaeth - Ysgol Gynradd Cwmfelin

Cyflogwr
Cwmfelin Primary
Lleoliad
Maesteg, Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
11th Mawrth 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1536070
Cyfeirnod y swydd
18421
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1536070
32.5 awr yr wythnos

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelin wedi'i lleoli yng Nghwm Llynfi. Mae'r ysgol yn gwasanaethu dalgylch eang ac mae'n ysgol leol uchel ei pharch a phoblogaidd gyda thua 190 o blant ar y gofrestr.

Rydym yn chwilio am Bennaeth â gweledigaeth glir i barhau'r ymgyrch i sicrhau safonau uchel yn yr ysgol. Bydd yn ofynnol ichi roi arweiniad i'r ysgol er mwyn cynnal ei llwyddiant ac i sicrhau addysg o safon uchel i bob disgybl a pharhau i godi safonau cyflawniad a llesiant tra'n cadw'r ethos a chynwysoldeb cryf.

A chithau'n Bennaeth, Dirprwy Bennaeth, arweinydd ysgol neu'n weithiwr proffesiynol addysg profiadol, bydd gennych brofiad rheoli gyda sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol amlwg. Byddwch yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr, y Gwasanaeth Cynhwysiant, asiantaethau allanol a'r gymuned leol i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn.

Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad cyntaf yn Bennaeth feddu ar y CPCP.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 11 Mawrth 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Mawrth 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 26 Mawrth 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Cwmfelin Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.