Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd yr Archddiacon John Lewis
Disgrifiad swydd
30 awr yr wythnos
Amser tymor
Dros dro - tan ddiwedd Tymor yr Haf 2026
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Archddiacon John Lewis yn dymuno penodi Cynorthwyydd Cymorth Dysgu brwdfrydig, cydwybodol a gofalgar i weithio mewn tîm addysgu llawn cymhelliant a chyfeillgar, sy'n barod i gynnal gwerthoedd ac ethos Cristnogol yr ysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cymorth hanfodol i ddisgyblion, yn bennaf yn y dosbarth Meithrin/Derbyn.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 12 Tachwedd 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 17 Tachwedd 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 26 Tachwedd 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Archdeacon John Lewis C In W Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.