Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Tremains
Disgrifiad swydd
20 awr yr wythnos
Dros dro tan Gorffennaf 2026
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cymorth Dysgu angerddol, ysbrydoledig, a chydwybodol i ymuno â'r tîm llawn cymhelliant yn Ysgol Gynradd Tremains. Mae'r Corff Llywodraethu yn chwilio am berson proffesiynol ac uchelgeisiol sy'n angerddol am drawsnewid dysgu ein disgyblion ar wahanol gamau datblygu.
Mae'r swydd hon yn gyfle gwych i chi ymuno ân tîm ymroddedig i ddarparu cymorth academaidd a phersonol o ansawdd uchel i'n disgyblion. Mae angen rhywun arnom sy'n gallu galluogi dysgwyr i gyflawni eu gorau gyda'r gallu a'r sgiliau i ymgysylltu ac uniaethu â disgyblion oed cynradd a'u meithrin. Mae gwybodaeth gadarn am ymyrraeth llythrennedd a rhifedd a llesiant yn hanfodol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 07 Ionawr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 12 Ionawr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 19 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Tremains Primary School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.