30 awr yr wythnos
Yn dechrau ym mis blwyddyn
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Brynmenyn yn dymuno penodi swyddog cymorth dysgu brwdfrydig, gofalgar a chydwybodol i weithio mewn tîm addysgu llawn cymhelliant a chyfeillgar.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth hanfodol i ddisgyblion ac yn gallu dangos hyn ar draws y cyfnod cynradd.
Dylai hefyd fod yn:
Gallu gweithio mewn partneriaeth agos â staff addysgu a staff cymorth eraill.
Meddu ar wybodaeth dda am arfer cynradd er mwyn cyfrannu at gynllunio a gwerthuso gweithgareddau dysgu.
Meddu ar ddealltwriaeth dda o anghenion dysgu ychwanegol a hyrwyddo cynhwysiant.
Meddu ar ddealltwriaeth a rheolaeth dda o ran anghenion ymddygiad.
Meddu ar brofiad o ddarparu gwaith ymyrraeth i ddisgyblion.
Llawn cymhelliant a gallu gweithio ar eu menter eu hunain.
Dangos sgiliau cyfathrebu a threfnu gwych.
Gweithio ochr yn ochr â staff i hyrwyddo un o feysydd y cwricwlwm.
Ymrwymedig i'w datblygiad proffesiynol eu hunain a gwella'r ysgol.
Gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd ehangach yr ysgol.
Parod i ymgymryd â dyletswyddau egwyl a chinio.
Byddwch wedi cymhwyso i o leiaf NVQ Lefel 3 neu gyfwerth neu'n meddu ar brofiad da o weithio gyda phlant mewn amgylchedd ysgol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad
ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 04 Tachwedd 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 09 Tachwedd 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 24 Tachwedd 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Brynmenyn Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.