Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Tremains
Disgrifiad swydd
28.5 awr yr wythnos
Amser tymor
Dros dro tan 31 Mawrth 2026
Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Dysgu angerddol, ysbrydoledig, a chydwybodol i ymuno â'r tîm llawn cymhelliant yn Ysgol Gynradd Tremains. Mae'r Corff Llywodraethu yn chwilio am berson proffesiynol ac uchelgeisiol sy'n angerddol am drawsnewid dysgu ein disgyblion ar wahanol gamau datblygu.
Mae'r swydd hon yn gyfle gwych i chi ymuno â'n tîm ymroddedig i ddarparu cymorth academaidd a phersonol o ansawdd uchel i'n disgyblion. Mae angen rhywun arnom sy'n gallu galluogi dysgwyr i gyflawni eu gorau gyda'r gallu a'r sgiliau i ymgysylltu ac uniaethu â disgyblion oed cynradd a'u meithrin. Mae gwybodaeth gadarn am ymyrraeth llythrennedd a rhifedd a llesiant yn hanfodol.
Byddem yn disgwyl y byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos, neu'n gallu datblygu, y wybodaeth a'r sgiliau i gyflwyno ymyriadau sy'n briodol i blant sy'n gweithio y tu ôl i'r disgwyliadau yn yr ystod oedran hwn. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o Thrive ac ELSA yn hanfodol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 02 Mai 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 08 Mai 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 16 Mai 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr D
isgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Tremains Primary School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.