Athro/Athrawes Dosbarth Arsylwi ac Asesu
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Cwm Ogwr am benodi athro/athrawes egnïol a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm llwyddiannus. I ddechrau cyn gynted â phosibl, mae'r ysgol am recriwtio athro/athrawes brofiadol ar gyfer y Dosbarth Arsylwi ac Asesu, sef darpariaeth arbenigol ar gyfer 9 disgybl ag anghenion dysgu cymhleth.
Mae Ysgol Gynradd Cwm Ogwr yn ysgol cyfrwng Saesneg sy'n darparu addysg i blant rhwng 3 ac 11 oed. Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu yn ymrwymedig i sefydlu cymuned ddysgu feithringar a pharchus gydag ethos cryf, cynhwysol, lle mae diwylliant o bositifrwydd, brwdfrydedd a dyhead yn bodoli i bawb a lle mae rhagoriaeth yn safonol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Athro/athrawes ragorol a phrofedig.
Yn gyfrifol am addysgu arbenigol disgyblion ag anghenion dysgu cymhleth.
Meddu ar ddealltwriaeth ddiogel o'r diwygiadau ADY.
Meddu ar brofiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
Yn hyblyg ac amryddawn.
Yn mwynhau gweithio'n agos gyda chydweithwyr.
Yn llawn cymhelliant ac yn drefnus.
Gyda disgwyliadau uchel o bob plentyn ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol
Profiad o gynhwysiant, gan gynnwys rheoli gwaith papur priodol a gweithio gydag asiantaethau allanol.
Cyfrannu at gymuned ehangach yr ysgol
Os oes gennych yr egni a hoffech weithio ochr yn ochr â ni, hoffem glywed gennych.
Cysylltir ag ymgeiswyr ar y rhestr fer i drefnu dyddiad ac amser i arsylwi gwersi.
Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 08 Hydref 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 10 Hydref 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 22 Hydref 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Ogmore Vale Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.