NEW

Pennaeth

Employer
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Location
Maesteg, Bridgend
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
L25 – L31 (£95.1k - £109.0k)
Start Date
1st September 2026
Expires
14th April 2026 09:00 AM
Contract Type
Permanent
Job ID
1543230
Job Reference
ETEACH/Pennath0301
Start Date
1st September 2026
  • Contract Type :Permanent
  • Job ID: 1543230

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd

Pennaeth

Nifer ar y gofrestr: 701

Dyddiad Cychwyn: Medi 2026

Cyflog: L25 – L31 (£95.1k - £109.0k)

Cytundeb: Llawn amser a pharhaol

Dyddiad cau am geisiadau: Dydd Mawrth 14.04.26

Dyddiad tebygol ar gyfer cyfweliad: Dydd Mercher 22.04.26

_________________________________________________________________________________

Hysbyseb Pennaeth

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg lewyrchus sy’n cael ei dathlu am ei haddysgu cryf, ei hethos cefnogol, a’i harweinyddiaeth uchelgeisiol, fel yr amlygwyd yn adroddiad Estyn.

Yn dilyn ymddiswyddiad ein Pennaeth presennol ac ymddeoliad ein Dirprwy Bennaeth, mae’r corff Llywodraethu am benodi arweinydd blaengar, arloesol a gweledigaethol i arwain yr ysgol ac adeiladu ar ein llwyddiant. Croesewir ceisiadau gan Ddirprwy Benaethiaid sy'n ceisio dyrchafiad yn ogystal â Phenaethiaid profiadol presennol.

Rydym yn chwilio am unigolyn gweithgar ac arloesol fydd yn chwarae rhan allweddol yn arwain ac ehangu gweledigaeth ein hysgol - cymuned Gymraeg ofalgar, cydweithredol ac uchelgeisiol sy’n credu mewn safonau uchel i bawb. Disgwylir ymrwymiad cryf i addysg Cymraeg ac i’n hegwyddorion craidd sy’n llunio ‘naws deuluol’ yr ysgol ac ethos tîm cryf, fel y nodwyd gan Estyn (2023).

Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn 2008 i ddarparu addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ar gyfer bwrdeistref sirol Pen-y-bont. Lleolir yr ysgol ar gyffiniau pentref hanesyddol Llangynwyd, llai na 10 munud o gyffordd 36 yr M4. Heddiw, mae tua 700 o ddisgyblion yn cynnwys y Chweched Dosbarth, gyda thwf pellach disgwyliedig wrth i’r sir ymrwymo i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg y sir. Mae ethos Tim Llan wrth wraidd ein diwylliant – gweithio mewn partneriaeth agos â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr er mwyn sicrhau llwyddiant gyda dysgwr. Rydym yn hynod falch o’n hymrwymiad i feithrin yr ymdeimlad o Gymreictod a hunaniaeth Gymreig ymysg disgyblion mewn modd cadarnhaol a chynhwysol gan gynnig awyrgylch cadarnhaol iawn i ddisgyblion ffynnu’n academaidd ac i ddatblygu’n ddinasyddion cyflawn. (Estyn, 2023).

Mae ein Corff Llywodraethu yn un cefnogol ac ymroddgar sy’n gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth gyda’r uwch dim arwain er mwyn cyflawni’r gorau ar gyfer ein holl dysgwyr a staff.

Rydym yn chwilio am Bennaeth sydd yn:

• Arweinydd cryf gyda’r weledigaeth a’r gallu i ddyrchafu, herio a chefnogi dyheadau pob disgybl a phob aelod o staff.

• Cymryd perchnogaeth o’r cydweithio â’r clwstwr cynradd, y Corff Llywodraethu a rhanddeiliaid ehangach.

• Meddu ar y gallu i gryfhau cynllunio strategol yr ysgol, mireinio’r weledigaeth bresennol a chyflymu’r daith gwella.

• Eiriolwr brwd dros ddatblygu a meithrin y Gymraeg a’r ddarpariaeth addysg Gymraeg.

• Gosod disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr, staff a nhw eu hunain drwy werthuso ac hunanwerthuso parhaus.

• Gallu rheoli cyllid ac arian yr ysgol yn hyderus.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno ag ysgol hynod llwyddiannus ar daith o dwf a datblygiad parhaus.

Anogir ymgeiswyr i ddarllen adroddiad diweddara ESTYN fan hyn:

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd – Adroddiad 2023

Ceir gwybodaeth gyd-destunol ar wefan My Local School ac ar wefan yr ysgol

Os ydych am ymuno â ni, lawr-lwythwch ffurflen gais oddi ar wefan E-teach.

Dyddiad cau’r swydd: 14.04.26 am 9 y bore.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I’R YSGOL A’R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Attachments

Safeguarding Statement:

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd

Part of Bridgend LA

Bridgend LA