YSGOL GYFUN GYMRAEG LLANGYNWYD
Swydd: Pennaeth Cynorthwyol
Dyddiad Cychwyn: Medi 2026
Cyflog L10 – 14 (£65,822 – £72,579)
Cytundeb: Llawn amser a pharhaol
Yn dilyn penodiad diweddar y Pennaeth, mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn chwilio i apwyntio Pennaeth Cynorthwyol ysbrydoledig er mwyn ymuno gyda’n tîm brwdfrydig a blaengar a pharhau i adeiladu ar lwyddiant yr ysgol.
Bydd ymgeisydd llwyddiannus yn
• Arweinydd cryf gyda’r gallu i gyfathrebu syniadaeth yn glir gan ysgogi cydweithwyr a dysgwyr er mwyn gyrru gwelliant a chynnydd.
• Ymarferydd â phrofiad llwyddiannus o gydweithio’n effeithlon gan feithrin diwylliant o ymddiriedaeth a pharch.
• Ymarferydd rhagorol sy’n hyrwyddo dysgu proffesiynol ac yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr, staff a nhw eu hunain drwy werthuso a hunan werthuso parhaus.
• Eiriolwr brwd dros hyrwyddo a meithrin hunaniaeth Gymreig a Chymraeg yr ysgol.
• Awyddus i gymryd cyfrifoldeb dros arwain mentrau penodol ysgol gyfan er mwyn sicrhau gwelliannau a chynnydd parhaus.
Croesawir cais gan ymgeisydd sy’n awyddus i ddatblygu ystod o sgiliau arweinyddiaeth wrth gydweithio gyda’r Pennaeth ac eraill i ddatblygu gweledigaeth yr ysgol a sefydlu a chynnal diwylliant ac ethos sy’n hyrwyddo rhagoriaeth, ymddiriedaeth broffesiynol, cydraddoldeb a disgwyliadau uchel o’r holl ddysgwyr a’r staff. Pennir rolau a chyfrifoldebau penodol yn unol â rhinweddau, cryfderau a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno ag ysgol hynod lwyddiannus ar daith o dwf a datblygiad parhaus.
Anogir ymgeiswyr i ddarllen adroddiad diweddara ESTYN:
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd – Adroddiad 2023 (linc yn yr atodiad)
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd – Adroddiad Interim 2026 (linc yn yr atodiad)
Ceir gwybodaeth gyd-destunol ar wefan My Local School ac ar wefan yr ysgol
Os oes diddordeb gyda chi i ymweld â’r ysgol neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â
pennaeth yr ysgol
Os ydych am ymuno â ni, lawr-lwythwch ffurflen gais oddi ar wefan E-teach.
Danfonwch y ffurflen gais at ebost yr ysgol
Dyddiad cau’r swydd: 11.05.26 am 9 y bore.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I’R YSGOL A’R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.