Llawn amser a pharhaol, 37 awr yr wythnos
Oriau Tymor ysgol
Dydd Llun – Dydd Iau: 12:15–20:15
Dydd Gwener: 11:00–18:30
Oriau Gwyliau ysgol
08:00 – 16:00
Dyma gyfle i ymuno ag ysgol hapus, flaengar ac eithriadol o lwyddiannus, gyda thîm cyfeillgar,
brwdfrydig a thalentog o staff sy’n ymrwymedig i gynnal y safonau uchaf o addysgu a dysgu i’n dysgwyr.
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw’r unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol Pen
y-bont ar Ogwr ac, o ganlyniad i’n perfformiad rhagorol, rydym wedi ein sefydlu fel ysgol â safonau uchel
a gweledigaeth glir ac uchelgeisiol. Lleolir yr ysgol i’r de o bentref hanesyddol Llangynwyd, tua 10
munud o gyffordd 36 yr M4. Mae’n hawdd ei chyrraedd o Abertawe i’r gorllewin (llai na 30 munud) ac o
Gaerdydd i’r dwyrain (25 munud).
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, ymroddedig ac egnïol sy’n dymuno ymuno â’r tîm rheoli safle
a chyfrannu at ethos yr ysgol.
“Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn cynnig awyrgylch cadarnhaol i ddysgwyr ffynnu’n
academaidd a datblygu’n ddinasyddion cyflawn. Mae awyrgylch teuluol Cymreig ac ethos cryf o weithio
fel tîm yn treiddio drwy’r ysgol gyfan. Mae cysondeb yn y ffordd y mae staff yn cyflawni eu dyletswyddau,
sy’n sicrhau bod cymorth cryf ar gael i ddysgwyr gan eu galluogi i gyflawni eu potensial.”
Adroddiad ysgol Estyn, Mawrth 2023
Mae hwn felly’n gyfle unigryw i ddechrau neu ddatblygu gyrfa a chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad
parhaus yr ysgol.
Bydd disgwyl i’r person sy’n gweud cais am y swydd yma ymgymryd â’r dyletswyddau isod:
• Cloi a datgloi adeiladau’r ysgol ac ardaloedd eraill.
• Cynnal gwiriadau arferol o’r safle ac adrodd neu uwch gyfeirio unrhyw faterion i’r person priodol.
• Gwirio glendid a chyflwr yr adeiladau a’r cyfleusterau, gan gyflawni dyletswyddau
glanhau/cynnal a chadw yn ystod y diwrnod gwaith. Casglu a chrynhoi gwastraff i’w gasglu.
• Gwneud mân atgyweiriadau a thasgau cynnal a chadw sylfaenol megis gosod silffoedd, paentio
a thrwsio gollyngiadau.
• Cyflawni tasgau glanhau brys ac arbenigol.
• Defnyddio offer, peiriannau ac offer safle, gan gynnwys boeleri, goleuadau a systemau dŵr.
• Cyflawni tasgau cynnal a chadw ar safle’r ysgol, megis torri gwair, clirio dail, casglu sbwriel a
chynnal ardaloedd palmant caled. Trin llwybrau a grisiau â halen, graean neu dywod pan fo
angen.
• Gwirio a chofnodi lefelau stoc er mwyn sicrhau cyflenwad digonol o sebon, tywelion papur,
papur toiled ac ati.
• Cynnal gwiriadau ac archwiliadau cydymffurfio arferol, gan gadw cofnodion yn unol ag arferion
gwaith effeithiol.
• Cludo dysgwyr i weithgareddau addysgol oddi ar y safle.
• Cydweithio ag asiantaethau allanol, gan gynnwys defnyddwyr sy’n llogi cyfleusterau’r ysgol.
• Cynorthwyo gyda chynnal archwiliadau diogelwch ac asesiadau risg.
• Mynychu sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb ac ar-lein er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth
ddiweddaraf.
• Cyflawni dyletswyddau deiliad allwedd ac ymateb i alwadau brys pan fo angen.
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n gyson â’r rôl hon.
Mae trwydded yrru lawn a glân yn hanfodol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, lawr lwythwch a
chwblhewch ffurflen gais o wefan Eteach neu cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol
(manylion yn yr hysbyseb). Os hoffech gael sgwrs anffurfiol neu
trefnu ymweliad i’r ysgol, mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol er mwyn trafod gyda’r Rheolwr Safle.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: Dydd Llun 12 Hydref am 12:00
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.