8.20 awr yr wythnos (08:20-09:15 & 14:50-15:35)
Tymor yr Ysgol
Ar hyn o bryd, mae gan Wasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dîm o ddynion a menywod ymroddedig ag ysbryd cymunedol sy'n ymgymryd â'r rôl bwysig o sicrhau diogelwch plant sydd ar eu ffordd i'r ysgol ac oddi yno.
Rydym
yn awyddus i glywed gan aelodau'r gymuned sy'n gallu dangos ymwybyddiaeth o draffig, ymdeimlad o gyfrifoldeb ac yn awyddus i ddangos ymroddiad wrth wneud swydd bwysig iawn i wneud ffyrdd Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy diogel i gerddwyr.
Mae'r swydd yn cynnwys gweithio am adegau penodol cyn ac ar ôl amseroedd dechrau a gorffen ysgolion.
Mae'n bwysig eich bod yn gallu gweithio ar bob diwrnod pan fydd yr ysgolion ar agor. Darperir gwisg i'ch diogelu rhag y tywydd.
A chithau'n Hebryngwr Croesfannau Ysgol, byddwch yn stopio traffig i gynorthwyo cerddwyr i groesi'r ffordd, chwilio am beryglon posibl ger yr ardal groesi, a helpu i addysgu plant ar faterion diogelwch ffyrdd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfarch y rhai sy'n dewis defnyddio'r cyfleuster croesi drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Tîm Diogelwch Ffyrdd ar 01656 642249.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 15 Ebrill 2026
Dyddiad
Llunio'r Rhestr Fer: 16 Ebrill 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 23 Ebrill 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Afon-y-Felin Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.