37awr yr wythnos
Mae Llywodraethwyr Ysgol Arbennig Bryn Castell yn dymuno penodi Uwch-swyddog Gweinyddol brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio o fewn y Tîm Gweinyddol ochr yn ochr â staff yr ysgol, i gynorthwyo disgyblion ag Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol ac Awtistiaeth ac Anghenion Dysgu Ychwanegol cysylltiedig yn
yr ysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymedig i gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a bydd yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y tîm prysur hwn i ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau gweinyddol, clercol ac ariannol, gynnwys Adnoddau Dynol ac arholiadau, a chynorthwyo â'r gwaith o gynllunio a datblygu gwasanaethau cymorth.
Dylai ymgeiswyr fod yn gymwysedig i NVQ Lefel 3 neu gyfwerth gyda phrofiad o weithredu a goruchwylio systemau gweinyddol ac ariannol, gyda gwybodaeth a dealltwriaeth lawn o godau ymarfer perthnasol, polisïau ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth.
Mae'r swydd hon yn swydd amser llawn yn yr ysgol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion
ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 26 Awst 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 01 Medi 2026
Dyddiad y Cyfweliad: wythnos yn dechrau 14 Medi 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Ysgol Bryn Castell yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.