37 awr yr wythnos
Yn ystod tymor yr ysgol
Dros dro tan 31 Awst 2027
Mae Ysgol Iau Llangewydd wedi'i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae'n rhan o glwstwr o ysgolion Bryntirion. Mae 343 o ddisgyblion ar y gofrestr sydd rhwng saith ac un ar ddeg oed. Mae gan yr ysgol 12 o ddosbarthiadau prif ffrwd a 2 ddosbarth ADY, gyda thrydydd dosbarth ADY yn agor ym mis Medi
2026.
Mae'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi swyddog cymorth arbennig, sy'n ddibynadwy, yn greadigol ac yn hyblyg, sy'n ymrwymedig i gefnogi'r athro dosbarth i hyrwyddo llesiant a dysgu plant.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Gynorthwyydd cymorth dysgu dosbarth ADY rhagorol i gefnogi disgyblion ADY, yn benodol y rhai ag anghenion niwroddatblygiadol.
- Gallu cefnogi profiadau dysgu gwahaniaethol o ansawdd uchel gan ddefnyddio eu gwybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru.
- Model rôl rhagorol i annog deilliannau cadarnhaol.
- Darparu ymyriadau o ansawdd uchel.
- Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm llwyddiannus.
- Gallu cefnogi gydag ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi.
- Gweithio mewn tîm Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh).
Yn Ysgol Iau Llangewydd rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig, hapus a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn ymrwymedig i lesiant staff a byddwn yn darparu amgylchedd gwaith cefnogol i bawb.
Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ar y rhestr fer ymweld â'r ysgol drwy apwyntiad gyda'r Pennaeth.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Krista Green ar 01656 815530 neu anfonwch e-bost at
Head@llangewyddjs.bridgend.cymru
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 27 Mai 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 09 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 22 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Llangewydd Junior yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.