ENDING SOON

Swyddog Cymorth Arbennig - Ysgol Bryn Castell - Mewnol yn Unig

Cyflogwr
Ysgol Bryn Castell
Lleoliad
Brynmenyn, Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
26th Tachwedd 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1585121
Cyfeirnod y swydd
19368
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1585121
32.5 awr yr wythnos

Tymor yr Ysgol

Mae angen person brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymrwymedig ar Gorff Llywodraethu Ysgol Bryn Castell i gynorthwyo disgyblion ag anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol gan gynnwys awtistiaeth ochr yn ochr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) eraill fel Swyddog Cymorth Arbennig mewn amgylchedd ysgol arbennig.

Byddai rhywfaint o brofiad o weithio gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn enwedig disgyblion ag anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol (BESD) gan gynnwys awtistiaeth ar draws y cyfnod cynradd ac uwchradd yn fanteisiol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus fynediad at amrywiaeth o fuddion i gyflogeion gan gynnwys:

- Gall pob cyflogai gael mynediad at raglen Gwobrwyon Brivilege sy'n rhoi mynediad at yr holl arbedion a buddion sy'n deillio o fod yn un o gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gan gynnwys gostyngiadau gan brif fanwerthwyr.

- Hamdden â Chymhorthdal: Mae pob cyflogai'n gymwys i brynu Bridgecard ar gyfraddau gostyngol sy'n cynnig mynediad am ddisgownt i ganolfannau hamdden y cyngor yn y fwrdeistref.

- Buddion aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith.

- Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol: ceir amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i hyrwyddo lles y staff. Mae'r rhain yn cynnwys cwnselydd mewnol, mynediad llawn at wasanaethau llesiant iechyd corfforol a meddyliol SAS a mynediad at VIVUP sy'n gallu darparu amrywiaeth o gymorth gan gynnwys cymorth ariannol, llesiant, meddyliol a chorfforol.

- Hyfforddiant a Datblygiad: Mae Ysgol Bryn Castell yn cydnabod pwysigrwydd dysgu i lwyddiant y sefydliad ac yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein staff a'u datblygu.

Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 26 Tachwedd 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: Wythnos yn dechrau 30 Tachwedd 2026

Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 07 Rhagfyr 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Bryn Castell yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.