Swyddog Cymorth Arbennig a Goruchwyliwr Cyflenwi - Mewnol yn Unig

Cyflogwr
Heronsbridge
Lleoliad
Bridgend, Bridgend
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
18th Tachwedd 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1582660
Cyfeirnod y swydd
19310
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1582660
35 awr yr wythnos

Swyddog Cymorth Arbennig - 28 awr yr wythnos yn ystod y tymor

Goruchwylydd Cyflenwi - 7 awr yr wythnos yn ystod y tymor

Amser Tymor

Mae Heronsbridge yn ysgol arbennig a gynhelir ar gyfer plant ag anawsterau dysgu difrifol rhwng 3 a 19 oed.

Mae'r llywodraethwyr am benodi unigolyn ymroddedig gydag amynedd ac egni i weithio gyda phlant ac oedolion ifanc ag anawsterau dysgu difrifol ac awtistiaeth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cyflenwi mewn dosbarthiadau yn absenoldeb yr athro cyfrifol er mwyn galluogi parhad dysgu trwy ddehongli, defnyddio a chyflwyno ymarferion a baratowyd ymlaen llaw a gwaith gosod, yn ogystal ag ymgysylltu, ysgogi a rheoli ymddygiad disgyblion.

Rhaid i chi feddu ar y NVQ Lefel 3 a Lefel 4 perthnasol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 18 Tachwedd 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: Wythnos yn dechrau 23 Tachwedd 2026

Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 30 Tachwedd 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Heronsbridge yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.