Swyddog Cymorth Arbennig - 28 awr yr wythnos yn ystod y tymor
Goruchwylydd Cyflenwi - 7 awr yr wythnos yn ystod y tymor
Amser Tymor
2 Swydd Wag.
Mae Heronsbridge yn ysgol arbennig a gynhelir ar gyfer plant ag anawsterau dysgu difrifol rhwng 3 a 19 oed.
Mae'r llywodraethwyr am benodi unigolyn ymroddedig gydag amynedd ac egni i weithio gyda phlant ac oedolion
ifanc
ag
anawsterau dysgu difrifol ac awtistiaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cyflenwi mewn dosbarthiadau yn absenoldeb yr athro cyfrifol er mwyn galluogi parhad dysgu trwy ddehongli, defnyddio a chyflwyno ymarferion a baratowyd ymlaen llaw a gwaith gosod, yn ogystal ag ymgysylltu, ysgogi a rheoli ymddygiad disgyblion.
Rhaid i chi feddu ar y NVQ Lefel 3 a Lefel 4 perthnasol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 20 May 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Heronsbridge yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.