NEW

Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Coety (Dros Dro)

Cyflogwr
Coety Primary
Lleoliad
Coity, Bridgend
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
18th Mawrth 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1536071
Cyfeirnod y swydd
18395
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1536071
6.25 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

2 x swydd dros dro ar gael hyd at 31 Mawrth 2027.

Mae Ysgol Gynradd Coety yn ceisio penodi dau Gynorthwyydd Goruchwylio Amser Cinio i weithio yn ystod amser cinio, rhwng 12:00pm a 1:15pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant yn ddiogel ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.

Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da, datblygu iaith a chwarae cadarnhaol ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â hyfforddiant amddiffyn plant a hyfforddiant cymorth cyntaf.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 18 Mawrth 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Mawrth 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 27 Mawrth 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Coety Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.