Cynorthwyydd Goruchwylio Llanw - Ysgol Gynradd Maes Yr Haul

Cyflogwr
Maes-Yr-Haul Primary
Lleoliad
Broadlands, Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
28th Hydref 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1578528
Cyfeirnod y swydd
19197
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1578528
6.25 awr yr wythnos

Cyfnod y Tymor

Mae Ysgol Gynradd Maes-yr-Haul yn ceisio penodi Cynorthwyydd Goruchwylio i weithio yn ystod amser cinio.

Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.

Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 28 Hydref 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Maes-Yr-Haul Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.