5 awr yr wythnos
Tymor yr Ysgol
Mae Ysgol Gynradd Tremains am benodi Cynorthwyydd Goruchwylio i weithio am awr yn ystod amser cinio, rhwng 11.45am a 2.00pm bob dydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant yn ystod amser cinio ynghyd â chynnwys disgyblion
mewn gemau ar y maes chwarae.
Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 15 Ebrill 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Ebrill 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 01 Mai 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Tremains Primary School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.