Cynorthwy-ydd Goruchwylio - Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Bro Ogwr
Lleoliad
Penybont ar Ogwr, Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
5,777.00 per year
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
17th Rhagfyr 2025 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1521737
Cyfeirnod y swydd
18136
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1521737
Cynorthwy-ydd Goruchwylio - Ysgol Gymraeg Bro Ogwr
Disgrifiad swydd
10 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

Mae Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn ceisio penodi Cynorthwyydd Goruchwylio i weithio yn ystod amser cinio, rhwng 11.30 a 13.30, dydd Llun - dydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig. 

Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.

Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog perthnasoedd cadarnhaol a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais.

Dyddiad Dechrau ar gyfer y Swydd: 05.01.2026

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 17 Rhagfyr 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 18 Rhagfyr 2025   

Dyddiad y Cyfweliad: 05 Ionawr 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.