Swydd athro ac Alenco - Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd

Employer
YGG Calon Y Cymoedd
Location
Betws, Bridgend
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
5,972.00
Start Date
To Be Confirmed
Expires
23rd February 2026 12:00 AM
Contract Type
Permanent
Job ID
1533018
Job Reference
18314
Start Date
To Be Confirmed
  • Contract Type :Permanent
  • Job ID: 1533018
32.5 oriau yr wythnos

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn dymuno penodi athro neu athrawes egniol, medrus ac hynod gymhellol i ymgymryd â'r swydd o Athro/Athrawes y Darpariaeth Awtistiaeth ynghyd â'r cyfrifoldeb ysgol gyfan fel ALNCo (TLR 2A). Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â chymuned ysgol Gymraeg gynhwysol, frwdfrydig a llwyddiannus lle mae lles a chynnydd pob dysgwr wrth wraidd ein gweledigaeth.

O Fedi 2026, mae'r ysgol yn bwriadu recriwtio ymarferydd profiadol i ddysgu yn ein dosbarth arbenigol ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth (Cyfnod Pontio, oed 7-11) ac i arwain Anghenion Dysgu Ychwanegol ar draws yr ysgol yn unol â gofynion Deddf ADY (Cymru) 2018.
Yn ystod y cyfnod cychwynnol, bydd y rôl yn cynnwys cyfuniad o ddysgu ac arweinyddiaeth ADY, gan symud i ddysgu llawn amser yn y ddarpariaeth awtistiaeth yn unol â threfniadau'r swydd.

Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethol yn ymrwymedig i greu amgylchedd dysgu meithringar, cynhwysol a llawn dyhead, gyda diwylliant o uchelgais, parch ac agwedd gadarnhaol at ddysgu, lle mae rhagoriaeth yn safon.

Mae'r gallu i sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau: 23 Chwefror 2026

Restr fer: 24 Chwefror 2026

Ymweliad ac arsylwad gwers: 2 Mawrth 2026 - 09 Mawrth 2026

Cyfweliad: 13 Mawrth 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Safeguarding Statement:

Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.