NEW

Swyddog Cymorth Dysgu (Dros dro) - Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Bro Ogwr
Lleoliad
Penybont ar Ogwr, Bridgend
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
24th Mehefin 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1557946
Cyfeirnod y swydd
18777
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1557946
27.5 awr yr wythnos

Tymor yr Ysgol

Dros dro hyd at 1 flwyddyn - i gychwyn 01 Medi 2026

O ganlyniad i ddyrchafiadau a chyfleoedd datblygu proffesiynol o fewn yr ysgol, dymuna Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr benodi swyddog cymorth dysgu llawn cymhelliant â phrofiad o weithio o fewn y cyfnod Cynradd i ymuno a thîm ymroddgar, arloesol a chreadigol wrth ddarparu amgylchedd ysgogol a maethlon sydd yn dathlu unigoliaeth pob plentyn.

Bydd angen i'r swyddog cymorth dysgu a benodir ddangos dealltwriaeth o ofynion y swydd ac arfer rhagorol ar lawr y dosbarth. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus feithrin perthnasau cadarnhaol gydag holl rhan ddeiliaid yr ysgol.

Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraegyn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 24 Mehefin 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 25 Mehefin 2026

Dyddiad y Dasg a'r Cyfweliad: 10 Gorffennaf 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.