30 awr yr wythnos x 2 swydd ar gael
Tymor yr Ysgol
Dros dro - i gychwyn 04.01.26
I gychwyn Ionawr 2027
O ganlyniad i ddyrchafiadau a chyfleoedd datblygu proffesiynol o fewn yr ysgol, mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn dymuno penodi Swyddog Cymorth Dysgu llawn cymhelliant a brwdfrydedd i ymuno â'n tîm ymroddgar, arloesol a chreadigol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn ysgol Gymraeg flaengar sy'n darparu amgylchedd dysgu ysgogol, gofalgar a chynhwysol lle mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi i wireddu ei botensial. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda staff addysgu i gefnogi dysgu disgyblion ac i gyfrannu at gynnal safonau uchel o addysgu a dysgu ar draws yr ysgol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:
- â phrofiad o weithio gyda phlant mewn lleoliad addysgol neu debyg;
- yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, staff a rhieni;
- yn gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm;
- â sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh da;
- yn gallu cyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd dyletswyddau'r rôl yn cynnwys:
- cefnogi dysgu disgyblion unigol a grwpiau bach;
- cynnal gweithgareddau dysgu strwythuredig;
- monitro cynnydd disgyblion a rhoi adborth i athrawon;
- cynorthwyo gyda goruchwyliaeth yn ystod amseroedd chwarae a gweithgareddau ysgol;
- cyfrannu at greu amgylchedd dysgu diogel, trefnus a chefnogol.
Mae'n ofyniad hanfodol eich bod yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg, gyda hyder ac yn rhwydd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 12 Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 14 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar OgwrDisgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.