Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Bryncethin
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Bryncethin yn dymuno penodi athro/athrawes llawn cymhelliant gyda phrofiad o addysgu ar draws y cyfnod Cynradd. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol ddiddordeb mewn arwain y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Bydd angen i'r athro/athrawes a benodir ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth, meddu ar brofiad o arwain pwnc cwricwlwm a dealltwriaeth o'r Dysgu Sylfaen.
Ni ellir cynnig y swydd hon i ymgeiswyr ANG ar hyn o bryd.
Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 8 Hydref 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 15 Hydref 2025
Dyddiad y Cyfweliad: Dechrau Wythnos 20 Hydref 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Bryncethin Primary School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.