Athro - Ysgol Gynradd Corneli
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Corneli am benodi athro/athrawes ysgol gynradd uchel ei gymhelliant/uchel ei chymhelliant, arloesol a chreadigol. Yn y rôl hon, byddwch yn ysbrydoli meddyliau ifanc, yn meithrin cariad at ddysgu, ac yn creu amgylchedd ystafell ddosbarth difyr a llawn dychymyg. Os ydych yn ymrwymedig i feithrin potensial pob plentyn ac yn awyddus i ddod â syniadau ffres i'n cymuned ysgol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Mae hwn yn gyfle gwych i addysgwr ymroddedig ac angerddol gael effaith gadarnhaol ar gymuned ein hysgol.
Bydd angen i ymgeiswyr fod yn angerddol am ymarfer cynradd o ansawdd uchel, bod yn ymarferwyr gwych yn yr ystafell ddosbarth a gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm. Rydym yn chwilio am rywun â diddordeb mewn cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol ac sy'n gallu cael effaith y tu hwnt i'w ystafell ddosbarth. Mae angen i ymgeiswyr fod â disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddisgyblion yn academaidd ac o ran eu hymddygiad.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn:
- Angerddol am addysgu a dysgu a meddu ar ddisgwyliadau uchel.
- Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth gref o'r cwricwlwm cynradd.
- Gallu cydweithio fel rhan o dîm.
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol gwych.
- Dangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Dangos creadigrwydd ac arloesedd wrth gynllunio a chyflwyno gwersi.
- Cymryd rhan weithredol yng nghymuned yr ysgol a chefnogi ei hethos.
Rydym yn cynnig ysgol hapus, greadigol a chynhwysol lle rydym yn gwerthfawrogi ein holl ddysgwyr a gweithio i sicrhau bod pob un yn cyrraedd ei botensial llawn.
Os ydych yn teimlo bod hon yn ysgol â'r heriau proffesiynol cywir i chi a'ch bod yn credu y gallwch ateb yr her honno rydym yn croesawu eich cais.
Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 07 Ionawr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 19 Ionawr 2026
Arsylwi Gwersi: 27 Ionawr 2026 neu 28 Ionawr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 30 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Corneli Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.