Athro/Athrawes FTE 0.8 - Ysgol Gynradd Oldcastle (Dros Dro) - Cyfnod Mamolaeth
Disgrifiad swydd
26 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf, gyda dyddiad dechrau disgwyliedig ym mis Rhagfyr 2025.
Mae Ysgol Gynradd Oldcastle yn ysgol gynradd fywiog ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n ymroddedig i ysbrydoli, cymell, ac addysgu dros 400 o blant 3 i 11 oed. Rydym yn ysgol uchelgeisiol lle mae gwerthoedd dysgu yn sail i ragoriaeth, mae unigolion yn cael eu gwerthfawrogi, mae cyflawniadau'n cael eu dathlu, ac mae ein cymuned yn ffynnu mewn amgylchedd dysgu diogel, hapus ac arloesol. Rydym wedi ein cydnabod gan Estyn fel ysgol gynhwysol a chroesawgar, ac rydym yn ymfalchïo yn ein hethos cryf o lesiant disgyblion, parch, ac ymgysylltu â'r gymuned. Yn Ysgol Gynradd Oldcastle, mae addysg yn fwy na dysgu yn unig, mae'n ymwneud â meithrin dysgwyr hunanhyderus sy'n barod i wynebu'r byd.
Y Rôl
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Oldcastle yn ceisio penodi athro/athrawes llawn cymhelliant ac angerddol i ymuno â'n tîm cefnogol a blaengar ar ein taith i ragoriaeth. Mae hwn yn gyfle gwych i weithio mewn ysgol sy'n ymrwymedig i safonau uchel o addysgu a dysgu, lle bydd eich brwdfrydedd a'ch ymroddiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Cyfrifoldebau Allweddol
Cynllunio a chyflwyno gwersi wedi'u strwythuro'n dda, diddorol ar draws y cyfnod cynradd, gan ddilyn Cwricwlwm i Gymru.
Ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd disgyblion i gyflawni eu potensial llawn.
Cynnal safonau uchel o addysgu, dysgu ac ymddygiad.
Asesu, monitro, ac adrodd ar gynnydd disgyblion yn effeithiol.
Cynorthwyo disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i sicrhau addysg gynhwysol.
Cydweithio â chydweithwyr i gyfrannu at ddatblygiad ac ethos ysgol gyfan.
Cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu proffesiynol i wella ymarfer dysgu.
Rhinweddau Dymunol
Llawn cymhelliant ac yn angerddol am ysbrydoli plant.
Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu eithriadol.
Gallu gosod a chynnal disgwyliadau uchel ar gyfer disgyblion a staff fel ei gilydd.
Ymrwymiad i gyfrannu'n gadarnhaol at gymuned ac ethos yr ysgol.
Gall athrawon newydd gymhwyso wneud cais am y swydd hon os oes ganddynt y sgiliau hanfodol sydd eu hangen.
Os ydych yn addysgwr ymroddedig a brwdfrydig sy'n angerddol am gael effaith gadarnhaol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Archwiliwch ein gwefan i ddysgu rhagor am fywyd yn Ysgol Gynradd Oldcastle. Rydym yn edrych ymlaen at gael eich cais a'ch croesawu i'n tîm.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 22 Hydref 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 3 Tachwedd 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 10 Tachwedd 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Oldcastle Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.