Athro/Athrawes (TLR2) - Ysgol Gynradd Oldcastle
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Llawn Amser – Parhaol
Mae Ysgol Gynradd Oldcastle yn ysgol gynradd fywiog ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n ymroddedig i ysbrydoli, cymell, ac addysgu dros 400 o blant 3 i 11 oed. Rydym yn ysgol uchelgeisiol lle mae gwerthoedd dysgu yn sail i ragoriaeth, mae unigolion yn cael eu gwerthfawrogi, mae cyflawniadau'n cael eu dathlu, ac mae ein cymuned yn ffynnu mewn amgylchedd dysgu diogel, hapus ac arloesol. Rydym wedi ein cydnabod gan Estyn fel ysgol gynhwysol a chroesawgar, ac rydym yn ymfalchïo yn ein hethos cryf o lesiant disgyblion, parch, ac ymgysylltu â'r gymuned. Yn Ysgol Gynradd Oldcastle, mae addysg yn fwy na dysgu yn unig — mae'n ymwneud â meithrin dysgwyr hunanhyderus sy'n barod i wynebu'r byd.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes arloesol, ymrwymedig a phrofiadol i ymgymryd âr rôl Arweinydd Safonau Cwricwlwm ac Asesu mewn Dysgu Sylfaen. Mae'r swydd hon yn hanfodol i sicrhau bod ein cwricwlwm wedi'i ymgorffori'n effeithiol mewn ystafelloedd dosbarth, gan hyrwyddo cydlyniaeth a chysondeb â Chwricwlwm i Gymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan ganolog wrth ysgogi arloesedd y cwricwlwm, cefnogi athrawon i weithredu arferion gorau, a meithrin diwylliant o welliant parhaus. Fel rhan o'l hon, byddwch yn gyfrifol am arwain ar Rifedd ar draws yr ysgol.
Byddwch yn cyfrannu’n sylweddol at godi safonau a chanlyniadau disgyblion drwy arwain datblygu'r cwricwlwm, arferion asesu, a mentrau datblygu proffesiynol.
A chithau'n aelod o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, byddwch hefyd yn rhannu cyfrifoldeb ar y cyd am lwyddiant ac ethos yr ysgol, gan sicrhau amgylchedd dysgu diogel, hapus, ac arloesol lle mae'r holl ddisgyblion a staff yn ffynnu. Disgwylir i aelodau o'm Arweinyddiaeth gyfrannu y tu hwnt i'w pwnc craidd neu faes cyfrifoldeb er mwyn sicrhau llwyddiant yr ysgol a sicrhau ei bod yn rhedeg yn ddidrafferth.
Mae Ysgol Gynradd Oldcastle yn estyn gwahoddiad cynnes i addysgwyr llawn cymhelliant, angerddol sy'n ymrwymedig i ragoriaeth ac arloesedd mewn addysg gynradd wneud cais am y rôl addysgu arweinyddiaeth allweddol hon. Ewch i adran ‘Swyddi Gwag yr Ysgol’ ar ein gwefan i gael gwybodaeth fanylach am ein hysgol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 26 Tachwedd 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 27 Tachwedd 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 03 Rhagfyr 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Oldcastle Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.