37 awr yr wythnos
Amser Tymor
Amser Tymor
Mae 2 swydd Cyfnod Penodol ar gael hyd at 31 Mawrth 2027
Gan ddechrau ym mis Medi neu'n gynt os yw hynny'n bosibl.
A ydych yn weithiwr proffesiynol blynyddoedd cynnar uchelgeisiol, myfyriol ac angerddol sy'n barod i ddylanwadu ar ymarfer y tu hwnt i'ch lleoliad eich hun? A ydych yn credu ym mhŵer
trawsnewidiol addysg
a gofal cynnar o ansawdd uchel? A ydych yn cael eich cymell gan y cyfle i gefnogi, herio ac ysbrydoli eraill i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i blant ifanc?
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i fuddsoddi mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn cryfhau capasiti ein Tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant. Felly, mae'n bleser gennym gynnig dau gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm uchel ei barch o gynghorwyr a swyddogion datblygu gofal plant.
Mae'r ehangu hwn yn adlewyrchu ein huchelgais lleol i wella ansawdd, cysondeb ac effaith y cymorth, yr her, yr arweiniad a'r dysgu proffesiynol a ddarparwn i leoliadau ac ysgolion. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwirioneddol i lunio ymarfer a gwella canlyniadau i blant ifanc ar draws y fwrdeistref sirol.
Y rôl
A chithau'n Gynghorydd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, byddwch yn:
Cefnogi, herio ac arwain arweinwyr ac ymarferwyr i sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel i ddysgwyr ifanc
Hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysgeg, darpariaeth ac asesu
Darparu cyngor proffesiynol sy'n gysylltiedig â gofynion statudol a fframweithiau arolygu
Cyfrannu at flaenoriaethau gwella strategol ar draws yr awdurdod lleol
Mae gwybodaeth ymarferol gref am ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol yn hanfodol, gan gynnwys:
Safonau Gofynnol Cenedlaethol
Trefniadau cwricwlwm ac asesu ar gyfer Lleoliadau Nas Cynhelir a Ariennir
Cwricwlwm i Gymru
Fframweithiau arolygu AGC ac Estyn
Byddwch yn dod â phrofiad sylweddol o gyflwyno addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel, gan gynnwys cefnogi plant ag anghenion sy'n dod i'r amlwg ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Byddwch hefyd yn gallu rhoi tystiolaeth glir o effaith gadarnhaol eich arweinyddiaeth ar ddatblygiad proffesiynol ac ymarfer cydweithwyr.
Mae sgiliau cyfathrebu gwych yn allweddol, ochr yn ochr â diplomyddiaeth, hygrededd a natur hawdd mynd atoch, gan fod y rôl yn gofyn am feithrin perthnasoedd proffesiynol cryf, ymddiriedgar wrth gynnal her briodol.
Mae gennym ddiddordeb penodol mewn ymgeiswyr sydd ag arbenigedd mewn:
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Sgiliau Cymraeg a chefnogi datblygiad dwyieithog
Addysgu a datblygu llythrennedd cynnar
Os ydych yn dod â chryfder mewn un neu ragor o'r meysydd hyn, byddem yn croesawu eich cais yn arbennig.
Yr hyn rydym yn ei gynnig
Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm cydweithredol, profiadol a blaengar sy'n ymrwymedig i wella canlyniadau i blant a theuluoedd ledled Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r rôl yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys elfen o weithio gartref (mae angen mynediad dibynadwy i'r rhyngrwyd), ochr yn ochr â theithio ar draws y fwrdeistref sirol. Mae trwydded yrru ddilys a'r defnydd o gar yn hanfodol.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, ffoniwch Louise Waite ar 01656 642798 neu anfonwch neges e-bost at louise.waite@bridgend.gov.uk.
Edrychwn ymlaen at gael eich cais a chroesawu cydweithwyr newydd sy'n rhannu ein huchelgais am ragoriaeth mewn addysg a gofal blynyddoedd cynnar.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
yn
un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 27 Mai 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Inclusion Service Bridgend County Borough Council yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.