Cogydd Peripatetig (Symudol\/Aml-safle) - Ysgolion

Cyflogwr
Inclusion Service Bridgend County Borough Council
Lleoliad
Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
1st Gorffennaf 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1559699
Cyfeirnod y swydd
18787
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1559699
22.5 awr yr wythnos

Tymor yr Ysgol

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn adran Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Gwasanaethau Arlwyo yn darparu prydau bwyd mewn ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac ysgolion uwchradd ar draws y fwrdeistref ar gyfer disgyblion a staff drwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r ysgolion unigol.

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod Cogydd Peripatetig (Symudol/Aml-safle) i reoli a chydlynu gweithgareddau o ddydd i ddydd mewn ceginau ysgolion amrywiol yn y fwrdeistref sirol, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid.

Byddwch yn gyfrifol am gynllunio'r fwydlen, rheoli dognau, paratoi a choginio, dyletswyddau gweinyddu a goruchwylio staff.

Byddai profiad blaenorol o baratoi bwyd a choginio i niferoedd mawr, goruchwylio, dyrannu dyletswyddau a hyfforddi yn fantais, ynghyd â gofynion Iechyd a Diogelwch, diogelwch, dyletswyddau gweinyddol, gofynion deiet arbenigol a diwylliannol, a gwybodaeth am reoliadau COSHH.

Mae Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon (darperir hyfforddiant). Mae NVQ 2 neu gyfwerth yn ddymunol.

Bydd yr oriau gwaith rhwng 9.00am a 2.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 01 Gorffennaf 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 03 Gorffennaf 2026

Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn Dechrau 13 Gorffennaf 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Inclusion Service Bridgend County Borough Council yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Inclusion Service Bridgend County Borough Council

Inclusion Service Bridgend County Borough Council