Swyddog Ansawdd mewn Gofal Plant (Cyfnod Penodol) - Blynyddoedd Cynnar

Cyflogwr
Inclusion Service Bridgend County Borough Council
Lleoliad
Bridgend
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
9th Rhagfyr 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1587268
Cyfeirnod y swydd
19391
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1587268
22 awr yr wythnos

Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028, gydag estyniad posibl, yn amodol ar gyllid parhaus

Helpwch ni i wneud gwahaniaeth i brofiadau cynharaf plant!

A ydych yn angerddol am ofal plant o ansawdd uchel? A oes gennych brofiad llwyddiannus o warchod plant, ac a ydych yn mwynhau rhannu eich gwybodaeth, cefnogi eraill a helpu arfer da i ffynnu?

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n Tîm Addysg Gynnar a Gofal Plant cyfeillgar a chefnogol fel Swyddog Ansawdd mewn Gwarchod Plant.

Yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon, byddwch yn gweithio'n agos gyda gwarchodwyr plant cofrestredig ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn enwedig y rhai sydd wedi cofrestru gyda'r awdurdod lleol i ddarparu lleoedd wedi'u hariannu i blant dwy oed. Byddwch yn darparu cyngor, canllawiau, hyfforddiant ac anogaeth i'w helpu i ddarparu'r profiadau gorau i blant.

Beth fyddwch yn ei wneud?

- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda gwarchodwyr plant, gan gynnig cyngor, cymorth a her adeiladol.

- Cefnogi gwarchodwyr plant i fodloni gofynion rheoliadol a gwella ansawdd eu darpariaeth yn barhaus.

- Datblygu a chyflawni cyfleoedd deniadol ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

- Rhannu adnoddau, syniadau ac enghreifftiau o arfer effeithiol yn y blynyddoedd cynnar.

- Cynnal ymweliadau sicrhau ansawdd a chefnogi gwarchodwyr plant i nodi a chyflawni eu nodau gwella.

Am beth rydym yn chwilio?

Rydym yn chwilio am rywun sy'n dod â:

- Gwybodaeth a phrofiad cryf o warchod plant cofrestredig a'r sefyllfa bresennol yn y blynyddoedd cynnar.

- Dealltwriaeth gadarn o reoliadau gofal plant, diogelu ac arferion cynhwysol.

- Angerdd am chwarae, dysgu a gofal o ansawdd uchel.

- Sgiliau cyfathrebu gwych a'r gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a chefnogol.

- Brwdfrydedd, menter ac ymrwymiad gwirioneddol i helpu eraill i ddatblygu.

Byddwch yn ymuno â thîm croesawgar, profiadol sy'n ymrwymedig i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.

Mae'r rôl yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gweithio hyblyg, er y bydd angen rhywfaint o weithio gyda'r hwyr ac yn achlysurol ar ddydd Sadwrn er mwyn diwallu anghenion y gymuned gwarchod plant, gydag amser i ffwrdd yn lle oriau a weithiwyd.

I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, ffoniwch Louise Waite ar 01656 642798 neu anfonwch neges e-bost at louise.waite@bridgend.gov.uk.

Gan fod elfen o weithio gartref yn cael ei chynnig fel rhan o'r rôl hon, bydd angen i chi sicrhau bod gennych gysylltiad dibynadwy â'r rhyngrwyd. Dylai ymgeiswyr hefyd fod yn ymwybodol y bydd y swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol teithio ar draws Pen-y-bont ar Ogwr ac felly mae trwydded yrru ddilys a char at eu defnydd nhw yn unig yn un o'r gofynion penodi.

Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.

Dyddiad Cau: 9 Rhagfyr 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 16 Rhagfyr 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Inclusion Service Bridgend County Borough Council yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Inclusion Service Bridgend County Borough Council

Inclusion Service Bridgend County Borough Council