2 awr yr wythnos
Amser tymor
Mae cyfle cyffrous wedi'i greu yn ein Cymorth Ieuenctid i ddarparu cymorth mynediad agored i bobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli un o'n canolfannau ieuenctid yn y sir, gan reoli tîm o weithwyr ieuenctid a sicrhau bod darpariaeth a arweinir gan anghenion yn cael ei darparu
sy'n diwallu
anghenion pobl ifanc yn unol â'r pum nod a nodwyd yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru.
Gall y swyddi gynnwys o leiaf 2 noswaith yr wythnos ac uchafswm o 4 noswaith yr wythnos a gweithio ar benwythnosau yn achlysurol. Mae'n ddymunol i ddeiliaid y swydd feddu ar drwydded yrru ddilys lawn.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys ar y stryd yn ôl anghenion y gwasanaeth.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 20 Mai 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 21 Mai 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 28 Mai 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Inclusion Service Bridgend County Borough Council yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.