Hysbyseb
Cynorthwyydd Ymyraethau/Dosbarth – Ysgol Uchaf
Mehefin 2025
Swydd: Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 4
Pwynt/ Graddfa Cyflog: Gradd 6 SCP 14-19
Cytundeb: Parhaol / Hyblyg
Oriau: Llawn Amser (32.5awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn) / Hyblyg
Hysbyseb: 18fed o Fehefin 2025
Dyddiad Cau: 30eg o Fehefin 2025 – 9yb
Swydd i ddechrau: Medi 2025
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Os ydych yn chwilio am gyfle i weithio mewn rôl lle mae pob diwrnod yn hollol wahanol gall hon fod y swydd i chi! Mae gennym gyfle i unigolyn talentog, ymroddedig a brwdfrydig i ymuno ag Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn gweithio fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yn ein Hadran Cynnal Dysgu. Mae hyn yn rhan o ymgyrch recriwtio felly sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted ag sydd yn bosib fel nad ydych yn colli’r cyfle!
Yn y rôl yma byddwch yn gweithio i gefnogi myfyrwyr ar draws holl gwricwlwm yr ysgol ond yn benodol yn gyfrifol am gynllunio a darparu ymyraethau i gefnogi disgyblion.
Wrth gyd-weithio gyda’r CADY, Dirprwy CADY ac athrawon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu profiad dysgu arbennig i’n disgyblion gydag anawsterau dysgu a/neu anableddau.
Dyma gyfle cyffrous i gynnig cefnogaeth tu allan i’r dosbarth, ac mewn rhai amgylchiadau yn y dosbarth, i ddysgwyr gydag amrywiaeth o anghenion dysgu. Bydd natur y gefnogaeth yn amrywio, o gefnogi grwpiau bach i ddatblygu gwytnwch, sgiliau rhyngberthnasol, sgiliau llythrennedd a rhifedd i gefnogi disgyblion gydag anghenion cymhleth sydd angen cefnogaeth un i un. Mae’r gallu i ddangos empathi tuag at ddisgyblion sydd ag anawsterau cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol yn hanfodol.
Yn ddelfrydol bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y profiad, gwybodaeth a’r ymwybyddiaeth o amrywiaeth o ddulliau i gefnogi disgyblion. Fodd bynnag, darperir hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer datblygu’r sgiliau hyn.
Bydd gan y person agwedd bositif a phenderfynol. Byddant yn hyblyg wrth weithio gyda gwahanol ddisgyblion a staff, yn barod am heriau newydd ac yn dangos yr ysfa i ddatblygu’n bersonol.
Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg o safon dda, blaengaredd a’r gallu i gyfathrebu’n dda gyda staff dysgu a disgyblion. Byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio naill a’i llawn amser (32.5 awr) neu’n rhan amser. Nodwch y nifer o oriau yr ydych am weithio yn eich datganiad ategol os gwelwch yn dda.
Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach am y cyfle euraidd yma, cysylltwch â Charlotte Dechamps Evans yn y man cyntaf drwy ffonio'r ysgol neu ebostio, gweler manylion ymgeisio ar gyfer cyfeiriad ebost.
Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.