Swydd: Athro Saesneg
Pwynt/ Graddfa Cyflog: M2 - UPS3
Cytundeb: Parhaol
Oriau: Llawn amser
Hysbyseb: 15ed o Fedi 2023
Dyddiad Cau: 25ain o Fedi 2023 (12yp)
Swydd i ddechrau: Ionawr 2024
Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Edrychwn am athro rhagorol, sydd yn dangos angerdd tuag at y pwnc a chyrhaeddiad ein disgyblion.
Arwyddair yr ysgol yw ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’. Ein bwriad yw i adeiladu yn bellach ar lwyddiannau yr ysgol hyd yma ac i sicrhau fod pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn derbyn y cyfleoedd gorau i gyrraedd pen eu mynydd personol.
Adran Saesneg
Rydym yn adran lwyddiannus sy’n ymfalchïo yn ein canlyniadau a’r profiadau rydym yn cynnig i ddisgyblion. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o’r disgyblion ac yn herio pob unigolyn i lwyddo yn y pwnc. Rydym yn dysgu Saesneg Llenyddiaeth a Saesneg Iaith a Llenyddiaeth yn Lefel A ac mae’r niferoedd sydd yn cymryd y pwnc yn sylweddol. Yn TGAU, mae pob disgybl yn y flwyddyn yn astudio Saesneg Llenyddiaeth yn ogystal â Saesneg Iaith.
Rydym wrthi yn treialu cynlluniau newydd Cwricwlwm i Gymru ac yn gyffrous am y cyfle i fod yn greadigol ac i ddatblygu ein disgyblion yn ôl y 4 Diben. Mae gennym adeilad newydd, ac adnoddau ardderchog er mwyn hwyluso’r dysgu. Rydym yn mynd ar deithiau i Harry Potter
World, Gwyl y Gelli a’r ffosydd yn flynyddol. Mae athrawon yr adran yn frwdrydig, yn uchelgeisiol ac yn aelod o dîm agos.
Safeguarding Statement:
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.